BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 7 Awst 2007, 18:58 GMT 19:58 UK
Gwobr Daniel i Tony Bianchi
Tony Bianchi
Cafodd Mr Bianchi ei eni yn North Shield, Northumberland

Tony Bianchi enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Sir Fflint 2007.

Mae Mr Bianchi yn gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn byw yng Nghaerdydd.

Tasg y 12 wnaeth gystadlu oedd llunio nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Y tri beirniad oedd Harri Pritchard Jones, Robat Arwyn ac Annes Glyn.

Ond doedd y tri beirniaid ddim yn unfrydol o ran anrhydeddu gwaith Chwilen, sef Pryfeta.

Dywedodd Harri Pritchard Jones bod gwaith Chwilen, yn "rhyfeddol".

Oes mae yna enillydd, ond mae'r enillydd mae gen i ofn yn cyrraedd y brig trwy fwyafrif
Harri Pritchard Jones

Hunangofiant naturiaethwr a'i berthynas rhwng gwahanol bobl sydd yma.

"Mae'r iaith yn goeth a chyfoethog gan gynnwys tafodiaith ac iaith wyddonol fanwl.

"Gwaetha'r modd i mi, mae 'na lawer gormod o ddisgrifiadau o drychfilod, pryfetach o bob math sy'n tarfu ar hynny o stori sydd yma ac yn llethu'r darllenydd.

"Ond maen nhw'n goeth a diddorol fel disgrifiadau.

"Oes mae yna enillydd, ond mae'r enillydd, mae gen i ofn, yn cyrraedd y brig trwy fwyafrif.

"Mae fy nghydfeirniaid yn hollol gytûn a phendant mai Pryfetach sy'n haeddu'r wobr."

Soffistigedig

Dywedodd Annes Glynn ei bod yn teimlo ei bod yng nghwmni nofelydd profiadol gyda "dychymyg gwreiddiol soffistigedig ar waith".

Dywedodd iddi ddarganfod "perlau bach o'r newydd" o'i hailddarllen.

A dywedodd Robert Arwyn bod y cyfrifoldeb o gadw hon iddo'i hun am fisoedd "heb ei thrafod ag eraill yn affwysol o drwm."

Cafodd Mr Bianchi ei eni yn North Shields, Northumberland, lle aeth i ysgolion pabyddol a dilyn y tîm pêl-droed lleol.

Aeth i Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan ac fe wnaeth astudiaeth o waith Samuel Beckett a dysgu'r Gymraeg.

Bu'n byw yng Nghei Conna, Sir y Fflint ac yn Aberystwyth cyn ymgartrefu yn y brifddinas.

Yno mae'n gweinyddu grantiau ar ran y Cyngor Celfyddydau ers 25 mlynedd.

Mae'n englyna ac fe ddaeth i'r brig mewn cystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Barddas.

Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gymar Ruth a heb fod ymhell o'i ferched a'i wyresau.

Fe wnaeth mwy cystadlu eleni nag ers cychwyn y gystadleuaeth yn 1978.

Cafodd Mr Bianchi Fedal Goffa Daniel Owen a £5,000 sy'n rhodd gan Gyngor Tref Yr Wyddgrug (£4,000) a Changen Dinbych a Fflint o Undebwyr Cymru.





SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^