Llun artist o'r cynllun
|
Mae cais i godi fferm wynt 200 tyrbin oddi ar arfordir y gogledd wedi cael ei newid fel y bydd y safle 20% yn llai.
Gwnaed y cais gwreiddiol i godi'r tyrbinau ar safle Gwynt y Môr ger Llandudno yn Nhachwedd 2005 gan gwmni NPower Renewables, ac mae'r cwmni nawr yn dweud y byddai'n golygu "gostyngiad arwyddocaol yn effaith weledol" y cynllun.
Mae'r cynllun ar gyfer 200 tyrbin tua naw milltir oddi ar arfordir Llandudno yn un dadleuol, ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud fod angen ymchwiliad cyhoeddus i benderfynu a ddylid codi'r fferm wynt.
Byddai'r gwaith yn dechrau yn 2010 pe bai'r Adran Fasnach a Diwydiant yn rhoi sêl bendith i'r cais cynllunio.
Mae Cyngor Conwy hefyd wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus.
Twristiaid
Mae rhai o drigolion Llandudno a'r cylch yn erbyn y cynllun ac wedi dweud y byddai'n cael effaith ar dwristiaeth er bod eraill wedi datgan eu bod o blaid.
Dywed cwmni NPower Renewables y byddai'r fferm yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 500,000 o dai ac yn arbed tua dwy filiwn tunnell o garbon deuocsid rhag cael ei rhyddhau yn flynyddol.
Bu protestiadau o blaid ac yn erbyn y cynllun
|
Cyn etholiad y Cynulliad ym mis mai dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Nick Bourne bod angen ymchwiliad cyhoeddus, a dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru y dylai'r penderfyniad cynllunio gael ei ddatganoli i'r Cynulliad yn hytrach na chael ei wneud gan yr Adran Fasnach a Diwydiant yn Llundain.
Dywedodd Mark Legerton o gwmni NPower: "Rydym yn gwerthfawrogi bod effaith weledol y cynllun yn bryder i rai.
"Felly rydym wedi cymryd camau i ostwng hyn yn arwyddocaol trwy wneud yr ardal lle bydd y tyrbinau yn cael eu hadeiladu 20% yn llai".
Dywed cwmni Npower y gall unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth neu am wneud sylwadau e-bostio gwyntymor@npower-renewables.com neu gysylltu â Judith Roberts ar 0151 648 0896.