BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 7 Awst 2007, 11:28 GMT 12:28 UK
Cylchgrawn: 'Parch at y ddaear'
Papur gwyrdd
'Ymateb positif': Cylchgawn newydd

Mae cylchgrawn Cymraeg sy'n annog pobol i barchu'r ddaear newydd gael ei gyhoeddi.

Roedd Y Papur Gwyrdd ar werth am y tro cyntaf ar Faes yr Eisteddfod.

Menter annibynnol y cyn newyddiadurwr a darlledwr Hywel Davies yw hon, cyn-olygydd papur wythnosol y Merthyr Express.

Dywedodd wrth lansio'r papur fod angen "bod yn greadigol i wneud yr hyn sy'n dda er mwyn goroesi problemau'r byd".

Roedd Cyfeillion y Ddaear a WWF Cymru wedi bod yn bositif, meddai.

"Mae'r ymateb wedi bod yn frwdfrydig a dwi'n ddiolchgar am hynny."

'Herio'

Roedd bod barn gwyddonwyr a sefydliadau yn llethu'r darllenydd oherwydd rhybuddion am yr hinsawdd, meddai, ac roedd angen creu cyswllt rhwng hyn â bywyd bob dydd.

"Os na wnawn ni herio'n ffordd o fyw mae perygl y bydd y dewis ym mynd mas o reolaeth.

"Mae hwn yn bwnc canolog i'n bywydau i gyd.

"Dyw hwn ddim yn bwnc sy'n cael ei weld fel rhywbeth Cymraeg a Chymreig ac mae cyhoeddi'r cylchgrawn yn Gymraeg yn dod â'r cyfan yn nes i'n bywydau bob dydd.

'Gweithredu'

"Mae'n hwyr iawn yn y dydd ac mae'n rhaid gweithredu."

Dywedodd ei fod yn ymwybodol o'r cylchgronau Saesneg am y pwnc a'i fod am gyhoeddi rhywbeth Cymraeg fyddai'n apelio at drwch y boblogaeth a denu darllenwyr nad oedd yn arfer darllen Cymraeg.

Mae Gordon James o Gyfeillion y Ddaear, un o gyfranwyr y rhifyn cyntaf, wedi croesawu'r cyhoeddiad.

"Yn ein swyddfa ni mae 'na drafodaeth wedi bod, bod mudiadau amgylcheddol yng Nghymru yn cael eu hystyried yn rhywbeth Seisnig.

"Fe fydd y papur hwn yn tanlinellu bod yr amgylchedd yn rhywbeth i bawb."

Pris y cylchgrawn yw £1 ac yn cael ei gyhoeddi bob dau fis.

Mae ar gael ym Mhabell Cyfeillion y Ddaear a Chyngor Llyfrau Cymru yn ystod wythnos yr Eisteddfod ac yna mewn siopau llyfrau.




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^