Ms Morris: 'Wedi mynd â Chymru i'r byd a'r byd at Gymru'
|
Mae'r awdures Jan Morris wedi derbyn Gwobr Cymry'r Cyfanfyd ddydd Mawrth.
Hwn yw'r pedwerydd tro i'r anrhydedd gael ei chyflwyno i berson neu fudiad sydd wedi gwneud cyfraniad bydeang.
Dywedodd un o drefnwyr yr anrhydedd, Arturo Roberts, ei bod hi'n derbyn y wobr am "ddod â'r byd i Gymru a mynd â Chymru i'r byd".
"Mae hi'n awdures enwog ac wedi gwneud Cymru'n enwog oherwydd ei llenyddiaeth," meddai.
Tlws
Doedd yr awdures ddim yn fodlon rhoi sylw ar ôl y seremoni.
Ms Henry Jones-Davies gafodd y syniad am y wobr ac mae tlws eleni wedi cael ei wneud gan y diweddar Tony Lewis y gemydd.
Dywedodd Mr Roberts, sy'n byw yn New Jersey ac yn golygu papur newydd Cymry Gogledd America Ninnau, ei fod yn gobeithio y byddai enwebiadau'n cael eu cynnig i'r pwyllgor dewis.
Ar y pwyllgor hefyd mae Frances Jones-Davies, golygydd cylchgrawn Cambria.
Gwynfor Evans
T Elwyn Griffiths gafodd y wobr gyntaf yn 1998 mewn seremoni yn Ohio pan oedd yn Llywydd Cymru a'r Byd.
Yn Eisteddfod 2000 yn Llanelli fe dderbyniodd Gwynfor Evans yr anrhydedd.
Ac fe gafodd Y Wladfa'r anrhydedd am eu bod wedi "cadw Cymreictod am bron 150 mlynedd".