BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Awst 2007, 16:47 GMT 17:47 UK
Prifardd yn ennill coron gynta
Tudur Dylan Jones
Mae Tudur Dylan Jones yn athro Cymraeg yn Ysgol Y Strade Llanelli.

Cafodd Coron Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau 2007 ei hennill gan Tudur Dylan Jones o Gaerfyrddin.

Mae eisoes wedi ennill Cadair yr Eisteddfod ddwywaith.

Tasg y 29 ymgeisiodd oedd ysgrifennu pryddest neu ddilyniant o gerddi heb eu cyhoeddi heb fod dros 300 llinell ar y thema Copaon.

Y beirniaid oedd Gwyn Thomas, Nesta Wyn Jones a Gerwyn Williams.

Roedd dau o'r tri o blaid coroni gwaith Gwyn sef Mr Jones.

Yn ôl y beirniaid roedd y casgliad o gerddi yn "fyr, ffres a modern".

"Mae'r cerddi yn dilyn rhyw fath o drefn amser, o'r crud i'r bedd.

'Troi'n ffaith'

"Ynddyn nhw mae ymdeimlad bod person yn gallu dewis ei lwybr ei hun i ryw raddau ond eto mae hualau sy'n ei ddal yn ôl.

"Ar daith bywyd mae gan bawb eu copaon arbennig eu hunain y maen nhw'n dyheu eu cyrraedd.

"I'r rhan fwyaf, dim ond mewn breuddwyd y gallan nhw gyrraedd ond i eraill weithiau mae'r freuddwyd yn troi'n ffaith."

Cafodd Tudur ei eni yng Nghaerfyrddin ac ar ôl cyfnod yn byw yn Y Tymbl symudodd y teulu i Fangor.

Aeth i Ysgol Gymraeg Sant Paul, Ysgol Y Garnedd ac Ysgol Tryfan.

Ar ôl cyfnod yn y coleg symudodd yn ôl i Gaerfyrddin a bu'n athro yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin.

Bu'n dysgu hefyd yn Ysgol Uwchradd Aberteifi a bellach mae'n athro Cymraeg yn Ysgol Y Strade Llanelli.

Mae e a'i wraig Enid yn byw yng Nghaerfyrddin gyda'u merched, Catrin a Siwan.

Dwy gyfrol

Yn 1988 enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ac mae wedi ennill Cadair y Genedlaethol ym Mro Colwyn yn 1995 ac yn Eryri a'r Cyffiniau yn 2005.

Yn 1995 ei dad, y Prifardd John Gwilym, oedd yr Archdderwydd.

Mae Tudur wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, Adenydd yn 2001 a Rhywun yn Rhywle ar gyfer plant.

Un o'i brif ddiddordebau yw rhedeg ac mae wedi gorffen Marathon Llundain dair gwaith.

Mae wrth ei fodd yn darllen am y sêr a'r planedau ac edrych drwy delescôp.

Cafodd y Goron ei llunio gan y gemydd o Lanelli, Mari Thomas.

Enillodd Tudur Goron yr Eisteddfod a £750 o rodd gan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n dathlu canmlwyddiant eu sefydlu.





SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^