Dywed y beirniaid fod y siop yn chwarae rôl allweddol yn y gymuned leol
|
Cafodd un o fusnesau tref Yr Wyddgrug wobr am hyrwyddo'r Gymraeg mewn seremoni ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun.
Mae Siop y Siswrn yn siop lyfrau a chrefftau Cymraeg yn y dref a nhw enillodd Wobr Bro'r Eisteddfod mewn seremoni Gwobrau Menter a Busnes.
Cafodd pum busnes wobrau, y pump yn cael eu rhedeg gan Gymry Cymraeg.
Yn ôl Menter a Busnes mae'r gwobrau yn "cydnabod llwyddiant y busnesau i hyrwyddo'r Gymraeg a'u cyfraniad i'w heconomi leol neu genedlaethol".
Defnyddio'r Gymraeg
Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth, oedd yn cyflwyno'r gwobrau.
Mae Siop y Siswrn wedi chwarae rôl allweddol yn nhrefniadau'r Eisteddfod eleni ac wrth hyrwyddo'r Gymraeg yn lleol.
"Mae'n deimlad o anrhydedd i dderbyn y wobr ar garreg y drws," meddai Selwyn Evans, un o gydberchnogion Siop y Siswrn.
"Ond mae'r diolch ar ddiwedd y dydd yn mynd i'n cwsmeriaid ar hyd y blynyddoedd."
Fe sefydlwyd y siop yn 1973 ac mae Ann a Selwyn Evans wedi bod yno ers 1986.
 |
Mae'r diolch ar ddiwedd y dydd yn mynd i'n cwsmeriaid ar hyd y blynyddoedd
|
Fe aeth y brif wobr i gwmni arall sy'n ymwneud â llyfrau, Gwasg Gomer o Landysul.
Cafodd y wasg, sydd bellach yn nwylo'r bedwaredd genhedlaeth o deulu'r Lewisiaid, wobr Menter Cenedlaethol.
Gwasg Gomer ydi un o brif gyhoeddwyr llyfrau yng Nghymru ac maen nhw'n dal i fentro.
Mae'r cwmni'n cyflogi 64 o bobl yn Llandysul.
Cwmni Cerrig o Bwllheli dderbyniodd y Wobr Ardal.
Mae'r cwmni yn cyflogi 30 ac yn defnyddio sgiliau a deunyddiau traddodiadol i gynnig cynnyrch gwenithfaen, llechen a marmor o safon uchel.
Siop trin gwallt o Lanbedr Pont Steffan, Dere i Dorri, gafodd Wobr Menter Pobl Ifanc ac maen nhw'n ehangu'r busnes i gynnig therapi harddwch ar ôl symud i safle yng nghanol y dref.
'Manteision'
Ac fe aeth Gwobr Menter Twristiaeth i Fwyty'r Celtic o Aberaeron.
Mae'r cwmni wedi cael wyneb cyhoeddus dwyieithog i'r busnes yn ddiweddar ac ar eu hanterth mae'n cyflogi 27 o staff llawn amser a rhan amser.
"Mae mwy a mwy o fusnesau yn cydnabod manteision defnyddio'r Gymraeg ac mae pob un o'r 125 enwebiad ar gyfer y gwobrau eleni yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru," meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes.
"Mae cyflwyno'r gwobrau ar lwyfan yr Eisteddfod hefyd yn dangos y gall Cymru ddathlu cyflawniadau ein hentrepreneuriaid llwyddiannus yn ogystal â'n beirdd a'n cerddorion."
Cafodd y gwobrau eu noddi gan Menter a Busnes, yr Eisteddfod, Croeso Cymru, West Coast Energy gyda chefnogaeth gan Tinopolis, Golwg a'r Daily Post.