Yn hyderus: Y golygydd Aled Price
|
Os na fydd Y Byd yn cael 5,000 o danysgrifwyr erbyn y gwanwyn mae perygl na fydd yn gweld golau dydd.
Yn ôl y golygydd, Aled Price, mae'r cyfanswm yn "angenrheidiol" os yw'r fenter i lwyddo.
Roedd trafodaeth am ddyfodol y wasg Gymraeg ym Mhabell y Cymdeithasau ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun.
Y cylchgrawn materion cyfoes Barn drefnodd y digwyddiad.
"Mae angen bod yn realistig ond mae'n angenrheidiol cael 5,000 o danysgrifwyr mor agos at y dyddiad lansio â phosib.
"Ac mae angen i drwch y darllenwyr fod yn danysgrifwyr," meddai.
'Cefnogaeth'
Ond cyfaddefodd bod 5,000 yn nifer fawr. "Rhaid cael cymaint o gefnogaeth â phosib i gael llwyddiant."
Hwn yw'r awgrym cyntaf efallai nad yw cychwyn Y Byd yn gwbl sicr ers penodi Mr Price yn olygydd ond fe awgrymodd y gallai rhai yn y cwmni fod yn barod i gario mlaen beth bynnag.
"Erbyn y gwanwyn rydyn ni'n hyderus y byddwn ni'n llwyddo i gael y nifer," meddai.
"Rydyn ni'n realistig ond ddim yn cynllunio ar gyfer methiant."
Mae'r papur, meddai, yn gobeithio gwerthu 2,000 o gopiau ychwanegol drwy brynwyr achlysurol yn y siopau.
Hyderus
Dywedodd Marc Jones, Golygydd Golwg, eu bod nhw'n gobeithio gwerthu 4,000 yr wythnos hon ac, yn ôl Y Cymro, roedd ganddyn nhw 250 o danysgrifwyr.
Er gwaetha'r targedau, dywedodd Mr Price ei fod yn hyderus.
"Dechrau'r broses farchnata a gwerthu'r papur yw hon ac o fewn chwe mis rydyn ni'n hyderus y cawn ni'r gefnogaeth angenrheidol," meddai.