BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Awst 2007, 08:03 GMT 09:03 UK
Cael blas ar Brifwyl 1923
Ffilm
Yr Orsedd yn gorymdeithio drwy'r Wyddgrug yn 1922

Mae Eisteddfodwyr wedi cael blas ar y gorffennol wrth i rannau o ffilm Eisteddfod 1923 gael eu dangos.

Yn Yr Wyddgrug yr oedd yr Eisteddfod honno.

Ym mhabell Cyngor Sir y Fflint ddydd Sul y cafodd y ffilm ei dangos gyntaf a bydd modd ei gwylio yn ystod yr wythnos.

Mae'r ffilm, gafodd ei darganfod a'i chyflwyno'n rhodd i'r Llyfrgell Genedlaethol, yn cofnodi hanes cyhoeddi'r Eisteddfod yn 1922 a'r Brifwyl y flwyddyn ganlynol.

Cafodd Tudor Owen o'r Wyddgrug afael ar y ffilm ac mae'r Archif Sgrin a Ffilm wedi glanhau'r cyfan.

Cafodd Mr Owen rannau o'r ffilm yn ôl cyn eu cyfuno â lluniau a dynnodd ei hun adeg ymweliad yr Eisteddfod a'r dref yn 1991.

Gorymdeithio

Y diweddar Brifardd Elwyn Roberts sy'n lleisio'r ffilm sy'n dangos aelodau'r Orsedd yn gorymdeithio drwy'r Wyddgrug i gyfeiriad Bryn y Beili a Cherrig yr Orsedd yn 1922 a 1923.

Cadair Bagillt 1923
Mae modd gweld Cadair Bagillt 1899 yn y babell

Mae'r lluniau symudol o Gyhoeddi Prifwyl 1922 yn dangos Dyfed yn Archdderwydd a'r Corn Hirlas yn cael ei gyflwyno gan Mrs Gladstone, gwraig Arglwydd Raglaw Sir Fflint ar y pryd.

Ar y Maes ei hun yn 1923 mae modd gweld y merched mewn gwisgoedd traddodiadol a Cadfan yn Archdderwydd wedi marwolaeth Dyfed.

Yn y ffilm gafodd ei recordio yn 1991 mae lluniau o baratoi'r Maes, ymwelwyr ar y Maes, lluniau o'r babell Celf a Chrefft, y Neuadd Ddawns a seremonďau'r Orsedd eto ar Fryn y Beili.

Ym mhabell y cyngor sir yr wythnos hon mae Cadair Eisteddfod Bagillt yn 1899 oedd wedi bod ar goll am dros ganrif.

Cafwyd hyd i'r Gadair - nad oedd neb wedi ei hennill - mewn siop hen bethau yn Victoria, British Columbia, Canada yn 1976.

Yn y babell mae cofnodion o hanes Eisteddfodau a fu yn y sir ers yr un yng Nghaerwys yn 1523, hanes addysg Gymraeg ac enwogion y sir.




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN


HEFYD
Cadair farddol yn croesi'r môr
09 Hyd 06 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^