Roedd bron i 200 o blant ar y llwyfan
|
Roedd bron i 200 o blant bach rhwng 2 a 4 oed ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Sul mewn pasiant arbennig.
Hanner awr o berfformiad oedd hwn ar y thema Adar ac Anifeiliaid.
Aelodau cylchoedd meithrin a chylchoedd Ti a Fi Sir Y Fflint oedd ym cymryd rhan gyda Mudiad Ysgolion Meithrin yn trefnu'r cyfan.
Cafodd y sgript ei llunio gan Gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni, Aled Lloyd Davies.
Mae Dr Davies yn arbenigwr ar gerdd dant ac wedi llunio sawl sioe ar gyfer plant o bob oed dros y blynyddoedd.
Un o'r Wyddgrug, Siân Meirion, fu'n gyfrifol am drefnu'r gerddoriaeth.
Mae hi'n fam i ddwy ferch ifanc ac yn athrawes gerdd deithiol yn yr ardal.
Caneuon lleol
"Mae llawer o'r caneuon a ddewiswyd yn ganeuon gwrin traddodiadola ymddangosodd ar gryno ddisg Yr Ŵyl Feithrin.
"Y gantores werin amryddawn Sian James oedd yn gyfrifol am y cryno ddisg ar gyfer y mudiad.
Cafodd y plant gyfle i flasu mawredd y llwyfan
|
"Ond rydym wedi ychwnaegu at y caneuon gan roi dwy gân draddodiadol o Sir Y Fflint."
Dywedodd cynhyrchydd y pasiant, Sara Owen, bod y plant wedi mwynhau cymryd rhan.
"Roeddwn wrth fy modd yn cael cynhyrchu'r pasiant roeddwn wrth fy modd," meddai.
"Dwi wedi mwynhau gweithio gyda'r plant o'r holl gylchoedd meithrin a'r ysgolion Cymraeg lleol."
Cafodd pasiant tebyg ei gynnal yn Abertawe'r llynedd.
"Er bod y plant yn ifanc iawn maen nhw'n canu'n wefreiddiol," meddai Marian Antrobus, Swyddog Datblygu Mudiad Ysgolion Meithrin Sir y Fflint.
"Roedd yn werth eu gweld a'r llwyfan yn llawn lliw.
"Cafodd y plant i gyda dystysgrif i gofio'r achlysur hefyd," ychwanegodd.
Y cylchoedd oedd yn cymryd rhan oedd Cylch Meithrin Aston; Cylch Meithrin Y Fflint, Cylch Meithrin Garden City, Cylch Meithrin Glanrafon, Cylch Meithrin Mornant, Cylch Meithrin Terrig, Cylch Meithrin Treffynnon, Cylch Meithrin Yr Wyddgrug, Cylch Meithrin Gwenffrwd, Cylch Ti a Fi Bagillt. Cylch Ti a Fi Bwcle, Cylch Ti a Fi Y Dreflan, Cylch Ti a Fi Mornant, Cylch Ti a Fi Terrig, Cylch Ti a Fi Y Fflint, Cylch Ti a Fi Yr Wyddgrug, Cylch Ti a Fi Capel Bethesda Yr Wyddgrug.
Roedd 'na rai disgyblion o Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug; Ysgol Terrig, Treuddun; Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon; Ysgol Croes Atti, Y Fflint ac Ysgol Mornant, Picton hefyd ar y llwyfan.