Emrys Williams oedd dewis unfrydol y detholwyr i dderbyn
|
Tirluniau'r dychymyg sydd wedi dod a'r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain i Emrys Williams o Gaerdydd yn Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau 2007.
Paentiadau o dirluniau dychmygol gafodd sêl bendith unfrydol panel Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod.
Dywedodd Mr Williams, gafodd ei eni yn Lerpwl yn 1958, ei fod yn chwilio am "yr arall" yn ei waith.
"Mae llawer o bobl yng Nghymru yn gwneud tirluniau a morluniau, yn ceisio gwneud genre hysbys i weithio, ond does gen i ddim diddordeb mewn dathlu daearyddiaeth," meddai.
"Dim ond dechrau llwyddo mae'r paentiadau pan mae'n stopio bod fel paentiadau eraill, pan mae'r delweddau yn gweithredu fel trosiadau ar gyfer rhywbeth arall."
Symudodd Mr Williams a'i deulu i fyw ym Mae Colwyn yn 1969.
Astudiodd yn Ysgol Gelf Slade, Llundain, a bellach mae'n ddarlithydd rhan amser yng Ngholeg Menai ym Mangor.
Cafodd ei ryddhau o'i waith darlithio eleni - gyda chymorth grant Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru - er mwyn canolbwyntio ar ddatblygu ei waith ymhellach.
'Yn y cnawd'
Dywedodd y detholwyr bod gwaith yr enillydd yn disgleirio o ran gweledigaeth a hynny gan un "sy'n feistr ar ei gamp".
"Mae'n ymchwilio ei idiom ddewisedig, sydd ar y dechrau yn ymddangos yn blentynnaidd, neu'n ddiniwed, gyda hyder ac aeddfedrwydd," meddai'r detholwyr, Andrew Coomber, Iwan Gwyn Parry, Julian Treuherz, Meri Wells a Bedwyr Williams.
Rhan o'r gwaith buddugol sydd yn Y Lle Celf ar y Maes
|
"Dyma artist eithriadol sy'n cynhyrchu gwaith natur bersonol sy'n adlewyrchu ei fywyd ef ei hun," ychwanegodd Iwan Gwyn Parry.
"Roedd cryfder y gwaith yn amlwg o'r dechrau ond mae'n rhaid gweld y paentiadau 'yn y cnawd' er mwyn gwerthfawrogi eu cyfoeth a'u hehangder."
Eglurodd bod gwaith Mr Williams wedi aeddfedu a datblygu ac mae'r paentiadau sydd wedi'u harddangos yn yr arddangosfa hon ymhlith y cryfaf y mae wedi'u cynhyrchu erioed.
"Yn freuddwydiol ac yn llawn naratif mae angen i rywun oedi a meddwl amdanynt er mwyn eu dehongli a'u gwerthfawrogi'n llawn," meddai.
Realiti
Dywedodd Mr Williams mai ei ddiddordeb yw creu gwaith cyfoes sy'n "baentiadau yn hytrach na lluniau".
"Pethau ag iddynt fateroldeb a phresenoldeb ffisegol," ydyn nhw meddai'r enillydd.
"Rwy'n creu'r darnau yn y stiwdio a dydyn nhw ddim yn deillio o un lleoliad neu le.
"Rwy'n cymryd meddiant o ddelweddau o amryw ffynhonnell er mwyn creu delweddau yr wyf fi'n ystyried cyfochrog i realiti.
"Er mwyn gwneud paentiadau, rhaid i mi deimlo fy mod i y tu mewn iddyn nhw a dwi ddim yn gwybod sut y maen nhw'n mynd i edrych nes eu bod wedi'u cwblhau."
Derbyniodd Mr Williams y Fedal Aur a £5,000 sy'n rhodd gan Gyngor Tref Y Fflint.
Mae'r gwaith buddugol i'w weld yn Y Lle Celf ar y Maes.