BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 4 Awst 2007, 16:58 GMT 17:58 UK
Eisteddfod: 'Llwyddo'n rhyfeddol'
Pabell Groeso'r Eisteddfod
Mae'r Croeso i Sir y Fflint yn un cynnes i bawb

Dwy flynedd yn ôl yn Eisteddfod Eryri doedd 'na ddim lleoliad ar gyfer y brifwyl eleni sydd wedi cychwyn yn Yr Wyddgrug dros y penwythnos.

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, eu bod wedi llwyddo'n rhyfeddol.

Roedd Mr Roberts yn siarad yn y gynhadledd i'r wasg gyntaf ar faes sych Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau ddydd Sadwrn.

Eglurodd bod Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal trafodaethau gyda'r Eisteddfod yn Y Faenol a bod eu cefnogaeth "wedi bod yn eithriadol".

Ym mis Chwefror 2006 y cychwynnodd y trigolion lleol i gasglu arian a threfnu'r Eisteddfod.

Wrth i'r Eisteddfod ddechrau ar stad Pentrehobin ar gyrion Yr Wyddgrug dywedodd Mr Roberts bod y Cyngor Sir wedi cychwyn yr apêl lleol gyda chyfraniad o £100,000.

"Ers mis Ebrill 2006 mae'r cyngor, y cynghorau cymuned a'r trigolion lleol wedi codi dros £260,000," meddai.

'Agos at fethu'

"Mae'r Eisteddfod yn ddyledus i'r Cyngor Sir ac i bobl Sir y Fflint am eu haelioni a bod pethau wedi mynd yn rhyfeddol o dda."

Roedd hynny wrth gwrs tan y tywydd gwael diweddar.

"Unwaith y daeth y tîm technegol ar y Maes ym mis Mai fe fu hi'n bwrw glaw," meddai Mr Roberts.

"Rydym wedi colli rhywfaint o aceri ac roeddem yn bryderus iawn ychydig ddyddiau'n ôl rhag ofn colli aceri o'r maes carafannau a maes parcio heb son bod y prif faes yn fwdlyd iawn.

Ymwelwyr ar y Maes
Mae cyflwr y Maes yn sych ôl y tywydd gwael

"Fe ddaethon ni'n agos iawn at fethu â chynnal yr Eisteddfod. Roedd y glaw yn ein rhwystro ni rhag gweithio ar y maes."

Ond dywedodd bod y tîm technegol wedi bod yn gweithio gyda'r cyngor sir a'r heddlu i ddod o hyd i atebion dros dro.

"Mae 500 llwyth lori fawr wedi dod â 8,000 tunnell o stwff yma er mwyn creu ffyrdd ar y maes sydd wedi costio £60,000 ychwanegol i ni," eglurodd Mr Roberts.

"Ond rydym yn falch o hyn rwan gan fod y maes yn lle braf ac rydym yn gobeithio y bydd bobl yn llifo i mewn yma.

"Gan fod y tywydd wedi cael effaith ar ddigwyddiadau drwy'r wlad rydym yn falch o allu agor a chynnig arlwy arbennig."

Sir di-Gymraeg

Fe wnaeth arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton, ddweud ei fod yn falch o weld ffrwyth llafur y misoedd o waith wedi dod i ben.

"Hoffwn dalu teyrnged i'r trefnwyr, i staff y cyngor ac i'r cydweithio fu rhwng pawb.

"Dwi wedi rhyfeddu tuag at y digwyddiadau unigryw sydd wedi cael eu cynnal er mwyn codi arian."

Arron Shotton
Cafwyd croeso gan arweinydd Cyngor Sir y Fflint

Roedd hefyd am ddiolch i'w ragflaenydd, y Cynghorydd Alex Aldridge, am lwyddo i sicrhau cytundeb rhwng yr holl gynghorau sir pan oedd yn cadeirio cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

"Mae'r sir yma yn sir di-Gymraeg yn bennaf ond dwi'n gobeithio y bydd ymweliad yr Eisteddfod yn rhoi cyfle i bawb ail ganfod yr iaith, y diwylliant a'r dreftadaeth.

"Gobeithio y gallwn adeiladu ar hyn yn y blynyddoedd i ddod."

Dydd Sadwrn fe wnaeth 16,710 o bobl ymweld â'r Maes, ychydig yn fwy na'r un diwrnod y llynedd yn Abertawe (16,565).

  • Mae'r Eisteddfod wedi cadarnhau bod y Maes Carafannau swyddogol yn llawn a dim ond lle i'r rhai sydd wedi archebu safle sydd ar gael erbyn hyn.




  • SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

    NEWYDDION

    CEFNDIR

    YR ORSEDD

    O'R ARCHIF

    GWEFAN


    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^