BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 4 Awst 2007, 13:44 GMT 14:44 UK
Gweindog 'o blaid y Brifwyl'
Elfed Robetes a Rhodri Glyn Thomas
Cafodd Mr Thomas groeso gan yr Eisteddfod ar y Maes ddydd Sadwrn

Mae'r Gweinidog dros Dreftadaeth wedi addo cefnogaeth lwyr Llywodraeth y Cynulliad i'r Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas for yr Eisteddfod "yn hanfodol i'r hyn yr ydyn ni'n ceisio ei gyflawni dros yr iaith a'r diwylliant".

Yr oedd yn siarad yn y gynhadledd i'r wasg gyntaf ar Faes Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau.

Eglurodd ei fod wedi bod cydweithio gyda'r Eisteddfod pan oedd yn gadeirydd pwyllgor diwylliant y Cynulliad.

Ond dywedodd y gallai wneud mwy gan ei fod yn rhan o'r llywodraeth.

Roedd yn un o dri aelod Plaid Cymru gafodd sedd yn y cabinet ar ôl ffurfio'r llywodraeth glymblaid.

"Mae'r Eisteddfod yn hanfodol i hyrwyddo'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yng Nghymru," meddai.

Partneriaeth

"Fe fydd y Llywodraeth yn cydweithio efo'r Eisteddfod i sicrhau ei pharhad.

"Mae 'na sefydlogrwydd drwy'r cytundeb efo Cymdeithas Llywodraeth Cymru ac mae 'na gefnogaeth hael wedi bod yma gan Gyngor Sir y Fflint, y cynghorau cymuned a phobl y sir sy'n adlewyrchiad gobeithiol tua'r dyfodol."

Rhdori Glyn Thomas
Rhodri Glyn Thomas: "Mae'r Eisteddfod yn hanfodol i hyrwyddo'r diwylliant a'r iaith Gymraeg."

Ychwanegodd Mr Thomas bod 'na bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Bwrdd yr Iaith a Llywodraeth Cymru.

"Mae'r bartneriaeth yn parhau i'r dyfodol ac fe fydd yr Eisteddfod yn parhau ac yn ffynnu."

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts wrth gyflwyno'r gweinidog newydd, ei fod yn falch o gael un sy'n "deall" yr Eisteddfod.

'Dim yn feirniadaeth'

"Mae'n dda cael rhywun sydd yn deall yr Eisteddfod yn gofalu am y gwaith yma," meddai Mr Roberts.

Ond wedi'r cyfarfod dywedodd nad oedd yn bwriadu i'w eiriau gael eu hystyried yn feirniadaeth o Alun Pugh, rhagflaenydd Mr Thomas.

"Yr hyn oeddwn i'n ei olygu oedd bod Rhodri Glyn Thomas yn rhywun sy'n dod i'r Eisteddfod bob blwyddyn.

"Mae'n aros ar y maes carafannau bob blwyddyn.

"Ac mae o'n gwybod beth ydi'r problemau mae trefnwyr yr Eisteddfod yn eu hwynebu os ydi'r elfennau yn troi yn ein herbyn ni oherwydd ei fod o ei hun wedi gorfod dreifio ei garafán i mewn i faes carafannau mwdlyd dyna'r math o beth oeddwn i'n ei olygu," meddai.

"Mi gawsom ni gyfnod digon hapus gydag Alun Pugh ac mi dreuliais i oriau gydag o yn dangos beth oedd yr Eisteddfod.

"Ond na, doedd o ddim yn feirniadaeth. A dweud y gwir yr ydym ni wedi gwahodd Alun Pugh yma'r wythnos hon a hynny oherwydd ein bod ni yn gwerthfawrogi'r cydweithio bu yna rhyngom ni a fo."




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^