Fydd Rhodri Morgan ddim yn gallu ymweld â'r ŵyl eleni
|
Mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi anfon neges i'r Eisteddfod Genedlaethol yn dymuno'r gorau i'r ŵyl wrth iddi ddychwelyd i'r gogledd ddwyrain am y tro cyntaf ers 16 mlynedd.
"Mae'n bleser mawr gen i ddymuno'n dda i'r Eisteddfod yn Yr Wyddgrug," meddai Mr Morgan.
"Rwy'n siŵr y bydd yn llwyddiant ysgubol - fel yr oedd pan ymwelodd yr ŵyl â'r ardal y tro diwethaf yn 1991.
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol bob amser yn un o uchafbwyntiau'r calendr yng Nghymru - o safbwynt busnes a phleser."
Dywedodd na fyddai'n gallu ymweld â'r brifwyl eleni ond roedd yn ffyddiog y bydd yn gyfle i arddangos "diwylliant a doniau Cymru ar eu gorau".
"Mae amrywiaeth eang ac ansawdd y perfformwyr a'r artistiaid sy'n cymryd rhan wastad yn gwneud argraff arna i, ac rwy'n arbennig o falch o weld cynifer o bobl ifanc yn chwarae rhan allweddol yn y profiad diwylliannol unigryw hwn," ychwanegodd.
"Gobeithio y bydd yr haul yn disgleirio i chi drwy gydol yr wythnos - ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r Maes pan fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf."