Bydd Glyn Wise yn cyflwyno'r cwrs Cymraeg rhyngweithiol
|
Mae BBC Cymru, sy'n gyfrifol am y Big Welsh Challenge, yn trefnu dathliad dwbl yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir y Fflint.
Ddydd Sadwrn, Awst 4, bydd ei gwrs fideo rhyngweithiol arlein a'i gynllun mentora newydd sbon i ddysgwyr y Gymraeg yn cael eu lansio'n swyddogol trwy gynnal helfa drysor o gwmpas y Maes.
Bydd yr Her Fawr yn dechrau am 2 o'r gloch, pryd y bydd gwahoddiad i ddysgwyr gasglu eu tudalen gliwiau o Babell y Dysgwyr a mynd ati i chwilio am eu trysor. Mae'r helfa'n agored i bawb o bob safon yn y Gymraeg, o ddechreuwyr pur i siaradwyr Cymraeg rhugl a hoffai helpu cefnogi'r dysgwyr.
Am 4 o'r gloch, bydd yr helwyr trysor yn dychwelyd i Babell y Dysgwyr mewn pryd i lansio'r Big Welsh Challenge. Yng nghwmni Pennaeth Addysg a Dysgu BBC Cymru, Eleri Wyn Williams, bydd un o'r mentoriaid enwog, Glyn Wise, yn cyflwyno'r cwrs Cymraeg rhyngweithiol.
Bydd defnyddwyr yr adnoddau arloesol hyn, a seiliwyd ar ddrama yn y dull opera sebon, yn cael cyfle i loywi eu sgiliau iaith trwy gyfrwng sesiynau ar y we gyda thiwtoriaid, yn cynnwys Glyn Wise a Dewi Pws sy'n gyd-gyflwynwyr y rhaglen deledu.
Mentoriaid
Bydd y dysgwyr enwog sy'n wynebu her y Big Welsh Challenge yn cael eu helpu'n unigol gan eu mentoriaid: mae Rhod Gilbert yn cael ei gefnogi gan Cerys Matthews; Simon Weston gan Ray Gravell; Colin Charvis gan Rebecca Evans; Di Botcher gan Glyn Wise, a Lowri Turner gan Iolo Williams.
Nawr bydd cyfle i ddysgwyr Cymraeg eraill hefyd fanteisio ar yr un math o gefnogaeth gan siaradwyr Cymraeg yn sgil Cynllun Mentora'r Big Welsh Challenge.
Cafodd pecyn arbennig o ddeunyddiau ei gynhyrchu i gefnogi'r mentoriaid a'r dysgwyr, gan gynnwys llyfr coginio o ryseitiau a gyfrannwyd gan gast y Big Welsh Challenge mewn Cymraeg syml ac wedi'i gynllunio i wella sgiliau iaith.
Datblygwyd y deunyddiau hyn gyda chefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r nod yw i ddysgwyr a'u mentoriaid eu defnyddio wrth weithio gyda'i gilydd. Ar hyn o bryd mae'r prosiect yn gwneud apêl am siaradwyr Cymraeg sy'n gallu neilltuo ychydig o'u hamser i fod yn fentoriaid.
"Mae hwn yn achlysur hynod o gyffrous i ni," meddai Eleri Wyn Williams. "Cawsom sylwadau gwych gan ddysgwyr Cymraeg sydd eisoes wedi cael cyfle i roi cynnig ar ein cwrs arlein ac mae gennym ragor o unedau ar y gweill, fydd ar gael yn fuan. Pleser o'r mwyaf hefyd yw cael lansio ein cynllun mentora sy'n sicr o fod o fudd i'r mentoriaid a'r dysgwyr fel ei gilydd."
Dydd Sadwrn 4ydd Awst - Pabell y Dysgwyr
2pm: Helfa Drysor y Big Welsh Challenge.
4pm: Y Big Welsh Challenge yn lansio ei gwrs ar-lein a'i gynllun mentora.