Bu Dillwyn Miles yn arwyddfardd yr Eisteddfod am 30 mlynedd.
|
Bu farw'r hanesydd a chyn arwyddfardd yr Eisteddfod Genedlaethol, Dillwyn Miles yn 91 oed.
Yn frodor o Drefdraeth, Sir Benfro, bu'n gwasanaethu yn y Dwyrain Canol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lle sefydlodd Cymdeithas Gymraeg.
Roedd yn awdur ac yn olygydd ar nifer o lyfrau hanes, a bu'n arwyddfardd yr Eisteddfod Genedlaethol am 30 mlynedd.
Yn un o brif haneswyr Sir Benfro yn yr ugeinfed ganrif cyhoeddodd 18 o gyfrolau yn ymwneud â hanes y sir.
Ysgrifennodd dau lyfr ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol.
 |
Yr oedd yn gymeriad a fu'n ganolog i fywyd yr Eisteddfod Genedlaethol ers dros hanner can mlynedd
|
Fe ymunodd â'r Orsedd yn 1936, yn 20 oed.
Bu'n arwyddfardd yr Eisteddfod rhwng 1966 a 1996.
Cyhoeddodd hefyd gyfrol o Hunangofiant a chyfrol yn dwyn y teitl "Atgofion hen arwyddfardd".
Mae'n gadael cymar a dau o blant.
Mae John Gwilym Jones, y Cofiadur presennol, wedi talu teyrnged i'r cyn arwyddfardd.
"Yr oedd ei ddisgyblaeth ynglŷn â seremonïau a gweithgareddau'r Orsedd yn amheuthun - ac roedd angen disgyblaeth yn yr Orsedd ac ef oedd yr union ddyn i weinyddu hynny.
"Ac yr oedd yn gymeriad a fu'n ganolog i fywyd yr Eisteddfod Genedlaethol ers dros hanner can mlynedd."
"Rhwng 1936 a 1959 ef oedd Ceidwad y Cledd ac o 1966 bu'n Arwyddfardd am ddeng mlynedd ar hugain".
'Arbennig iawn'
Yn syth wedi iddo gyrraedd maes Yr Wyddgrug fore Gwener y clywodd yr Archdderwydd Selwyn Iolen am farwolaeth Mr Miles.
"Yr oedd yn gymeriad arbennig iawn ac yn rhoi pwys mawr ar urddas yr orsedd," meddai.
"Rwy'n cofio pan fyddwn i yn gweithio i HTV yn yr Eisteddfod y byddai o'n amharod iawn imi geisio tynnu'r bardd oedd wedi ei wobrwyo o'r orymdaith er mwyn ei holi. 'Mae hyn yn rhan o'r orymdaith,' fyddai ei eiriau.
"Ac wrth gwrs fyddai neb yn cael mynediad i'r ystafelloedd gwisgo nac yn cael ymyrryd o gwbl yn y gweithgareddau.
"Roedd yn rhoi pwys mawr ar y ffaith fod aelodau'r Orsedd wedi eu dilladu'n daclus.
"Yr oedd yn gymeriad lliwgar ac wedi ymuno â'r orymdaith ar gefn ceffyl fwy nag unwaith," meddai.