BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 3 Awst 2007, 19:56 GMT 20:56 UK
Sir Fflint yn estyn croeso
Dr Aled Lloyd Davies
Mae Dr Davies yn barod i groesawu'r Cymry i Sir Fflint

Mae Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau 2007 wedi cychwyn yn swyddogol nos Wener.

Wedi'r seremoni agoriadol roedd cyngerdd yng nghwmni Caryl Parry Jones a'r Band, Dylan Cernyw ac Annette Bryn Parri, Dewi Ellis Jones, Cantorion Colin Jones, Côr Hyn Ieuenctid Sir Fflint a Dawnswyr Nantgarw.

Mae'r trefnwyr wedi cael llai na dwy flynedd i baratoi, ond maen nhw'n ffyddiog y bydd yr ŵyl rhwng Awst 4-11 yn un llwyddiannus.

Dywed Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Dr Aled Lloyd Davies fod yr ymateb o fewn y sir wedi bod yn "rhyfeddol".

Dr Davies oedd y cadeirydd pan fu'r Eisteddfod yn Yr Wyddgrug ddiwetha, Eisteddfod Bro Delyn yn 1991.

Dydi'r ardal ddim wedi cael dwy flynedd lawn i baratoi ond er hynny dywed Dr Davies eu bod yn barod ac yn edrych ymlaen at wahodd pawb i'r sir ar y ffin.

"Cwta flwyddyn a hanner da' ni wedi gael hyd 'rŵân i drefnu'r Eisteddfod, tra mewn gwirionedd o dan yr hen drefn fasa ni hefo o leia 24 mis i baratoi," meddai Dr Davies cyn cychwyn yr wythnos.

Steddfod fwy

"Oherwydd yr amgylchiadau roedden ni bron flwyddyn yn hwyr yn cychwyn.

"Ond mae'r ymateb o fewn y sir wedi bod yn rhyfeddol, nid yn unig gan y Cyngor Sir ond Cynghorau Tref Yr Wyddgrug, Bwcle, Fflint, Treffynnon a llefydd ar y glannau hefyd."

Dywedodd hefyd ei fod yn hynod o falch bod y targed ariannol wedi ei gyrraedd rhai misoedd cyn y brifwyl.

Mae'r gronfa leol wedi codi dros £300,000.

"Doedd y safle a ddefnyddiwyd ym 1991 ddim digon mawr," meddai Dr Davies

"Rhyfedd meddwl bod y 'Steddfod wedi ymestyn ei chortynnau mewn 16 mlynedd ers iddi ymweld â ni ddiwetha.

"Mae'r safle yn fwy, yn safle hollol wastad ac yn ddiddorol iawn, ddim yn nhiriogaeth tref Yr Wyddgrug o gwbl - mae'r safle ym mhlwy' Coed Llai.

"Ond mae'n faes hwylus tu hwnt ac o ran traffig mae llai o broblemau gyda hi na'r tro blaen."

Ac fel holl drigolion y fro sydd wedi bod yn paratoi yn eiddgar ar gyfer yr wythnos mae Dr Davies yn hyderus y bydd pawb yn heidio i fro Daniel Owen ac i'r rhan o Gymru sydd "wedi bod yn gwarchod y ffin ar eich rhan".




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^