Scott Rowley ydi'r ymgeisydd lleol
|
Mae pedwar wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn cyn cyhoeddi enw'r enillydd nos Fercher.
Fe fydd y seremoni wobrwyo yng ngwesty Plas Hafod, Gwernymynydd ger Yr Wyddgrug.
Mae'r pedwar yn cael cyfle i sgwrsio gydag Eisteddfodwyr a'r beirniaid ym Mhabell D ar y Maes ddydd Mercher.
Y tri beirniad yw J Philip Davies, Glenys Leach a Rhiannon Lloyd.
Mae un o'r pedwar yn lleol, Scott Rowley gafodd ei eni a'i fagu ar Lannau Dyfrdwy.
Er nad yw ei deulu'n siarad Cymraeg aeth i astudio am radd Gymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor.
Fe yw cydlynydd cynlluniau chwarae Sir y Fflint bob haf.
"Dwi'n wreiddiol o Gei Conna ac wedi astudio Cymraeg ers yr ysgol fabanod, gwneud TGAU yn Ysgol Cei Conna a Lefel A yn Ysgol Uwchradd Yr Alun, Yr Wyddgrug.
"Mae gen i ddiddordeb mewn ieithoedd a dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i ni fel cenedl ddysgu'r iaith ... a sicrhau'r dyfodol o genhedlaeth i genhedlaeth.
'Esiampl'
"Hoffwn i fod yn esiampl mewn ffordd i bobl ifanc a phlant sydd o'r un fath o gefndir â fi."
Dywedodd fod llawer o bobl yn Sir y Fflint o gefndir Saesneg "sydd ddim yn gweld mantais dysgu Cymraeg."
Mae tad David Chan o Hong Kong a'i fam o Loegr. Ond yr hyn sy'n rhyfeddol ydi nad yw e erioed wedi byw yng Nghymru.
Fe ddysgodd y Gymraeg yn rhugl drwy e-bost, y we a chyrsiau byr.
Erbyn hyn mae'n gweithio i Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ond yn dal i fyw yn Swydd Efrog.
Un o Gwm Rhondda yw'r unig fenyw yn y gystadleuaeth.
Aeth Julie Macmillan ddim i ysgol Gymraeg ond erbyn hyn mae hi o blaid addysg Gymraeg yn yr ardal fel rhiant ac ymgyrchydd brwd.
Bywyd Cymraeg
Cafodd ei henwebu i'r gystadleuaeth gan brifathro Ysgol Gynradd Ynyswen, Treorci, sy'n gwerthfawrogi ei gwaith gwirfoddol hi i'r ysgol.
Y pedwerydd ydi Albie Abbott symudodd o Loegr i Sir Gaerfyrddin 10 mlynedd yn ôl.
Dechreuodd ef a'i wraig Dee ddysgu Cymraeg yn fuan ar ôl sylwi bod yr iaith mor bwysig yn yr ardal.
Erbyn hyn mae'r ddau yn diwtoriaid yn Sir Benfro ac Albie a'r teulu'n amlwg ym mywyd Cymraeg yr ardal gyda'r Urdd, Cymdeithas y Dysgwyr, y papur bro a'r Fenter Iaith leol.