BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 7 Awst 2007, 08:21 GMT 09:21 UK
Anrhydedd fawr i Elsie
Elsie Nicholas
Un o'r cewri: Elsie Nicholas

Gwraig sydd wedi gwneud cyfraniad oes i fyd yr Eisteddfodau sy'n derbyn Medal Syr T H Parry-Williams eleni.

Mae Elsie Nicholas o'r Fforest, Pontarddulais, wedi cyfrannu'n helaeth i ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg.

Am flynyddoedd bu'n adroddwraig ac yn athrawes adrodd i ddegau o gystadleuwyr.

"Bob dydd Sadwrn ro'n i'n eisteddfota nes mod i'n bell dros fy 50 oed a chwpla yn Steddfod Llanbed ac ennill cwpan, y cwpan mwya oedd 'da fi," meddai.

"Dwi bron wedi dysgu rhwng 80 a 100 o blant ar hyd y blynyddoedd ac yn dal i ddysgu ambell un.

"Mae'r ferch yn dysgu rhai nawr a finne'n dal i helpu.

'Wrth fy modd'

"Fy mywyd i oedd drama, adrodd, eisteddfota, cyngherdda, pethau wrth fy modd."

Erbyn hyn mae ei phlant, Gary a Delyth Nicholas, yn enwog am hyfforddi pobl ifanc i adrodd a pherfformio ond roedd Elsie wrthi ymhell cyn iddyn nhw gael eu geni.

Un sy'n cofio'r dyddiau cynnar yw ei ffrind Janet Mair Jones.

"Yn 1936, Steddfod yr Urdd ym Mlaenau Ffestiniog, a tair ohonon ni o Bontarddulais yn ennill.

"Fi'n ennill dan wyth a Elsie dan 10.

'Sawl blwyddyn'

"Mae'r cysylltiad gyda fi'n mynd yn ôl sawl blwyddyn."

Does dim amau gallu Elsie fel adroddwraig ond beth am ei gallu fel cantores? Mae hi'n aelod o Gantorion Pontarddulais.

"Wel, ... mae'n canu fel y boi," meddai is-lywydd y côr Annes Lewis.

Roedd yr arweinydd, Ifor Miles, yn awyddus i dalu teyrnged iddi.

"Ga i ar ran aelodau'r côr a thrigolion Pontarddulais a'r cylch longyfarch Elsie.

"Ar y dechrau roedd hi'n adrodd, yn athrawes benigamp a threfnu pethau yn Y Bont a'r cylch, noson lawen flynyddol, Eisteddfod Yr Hendy ac yn ymwneud â'r Urdd.

"Ac mae'r plant, Gary a Delyth wedi dilyn yr un camau."

'Anrhydedd'

Dywedodd Elsie fod ennill y fedal yn "anrhydedd tu hwnt".

"Dwi'n teimlo bod y gwaith yn cael ei anrhegu gan fedal dyn mor bwysig.

"Fe fues i'n adrodd pan o'dd T H Parry Williams yn beirniadu mewn un 'steddfod, ac ennill.

"Roedd wastad yn sefyll yn y cof, a nawr cael ei fedal - am anrhydedd yn wir."




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^