Mae'r paratoadau'n mynd ymlaen ar y Maes
|
Nos Wener fe fydd Seremoni a Chyngerdd Agoriadol Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau.
Ar ôl wythnosau o dywydd gwael mae ychydig o ddyddiau braf wedi bod cyn i'r Brifwyl ddechrau yn Yr Wyddgrug.
Mae'r trefnwyr wedi gwario £50,000 ychwanegol er mwyn gwella cyflwr y Maes.
Y gobaith yw y bydd y Maes mewn cyflwr da erbyn dechrau'r ŵyl.
Yr wythnos ddiwethaf roedd 'na fwd a phyllau glaw ar y Maes.
"Fyddai rhywun ddim yn meddwl ein bod ni ar yr un Maes wythnos yn ddiweddarach," meddai Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod.
Torri gwair
"Dydd Iau diwetha wnes i wisgo welingtons am y tro diwetha, wedi bod mewn 'sgidia ers hynny.
"Rydan ni wedi rhoi tua 8,500 tunnell o gerrig a stwff ffordd ar y Maes a bydd pob man yn gerddadwy i bawb a modd cyrraedd pob stondin.
Mae ffyrdd wedi cael eu gosod ar y Maes i'r cerddwyr
|
"Dwi'n gweddïo rwan na fydd 'na fawr o law ac yn edrych am haul, hindda ac ychydig o wynt."
Oherwydd y tywydd mae'r gwaith paratoi yn parhau tan y funud ola.
Alan Gwynant yw swyddog technegol yr Eisteddfod. "Mae'r tywydd wedi effeithio ar bob dim ... ar y ffermwyr yn methu cael y gwair.
"Hyd at yr wythnos yma doeddan ni ddim wedi cael yr un diwrnod sych ers i ni gychwyn yma ar Fai 8.
"Ond 'dan ni wedi dod o le pell ac wedi gweithio lot wythnos yma yn gwneud 18 awr o waith bob dydd.
"Rydan ni wedi gwario £50,000 ychwanegol ar y ffyrdd a'r traciau metal ond mae rhaid gwneud y gwaith gosod y ffyrdd sydd wedi arwain at oedi mewn llefydd eraill."
Hwylus
Mae rhai o'r stondinwyr wedi dechrau cyrraedd y Maes, gan gynnwys yr arlunydd o Borthmadog, Rob Piercy.
"Mae'r glaswellt yn berffaith, rhai llefydd lle mae'r tir wedi troi ond ar y cyfan mae'n sych," meddai.
"Dwi'n credu bod y Maes yn sychu'n sydyn."
Dywedodd Garmon Gruffudd o'r Lolfa ei fod wedi gweld cyflwr lot gwaeth yn y gorffennol.
"Doedd 'na ddim problemau pan gyrhaeddon ni ac roedd popeth yn hwylus iawn," meddai.
Dywedodd y trefnwyr fod y Maes yn sych a bod yna groeso i bawb i'r Wyddgrug ac i Brifwyl 2007.