BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Awst 2007, 18:25 GMT 19:25 UK
Patagonia: Dwylo dros y môr
Esquel
Mae tref Equel yn cynnal Eisteddfod bob blwyddyn.
Mae tre ym Mhatagonia am gael ei hefeillio gydag Aberystwyth.

Dywedodd Rafael Williams, maer Esquel, y byddai'r ddwy ardal yn elwa o gydweithio.

Fe aeth yr ymfudwyr cynnar o Gymru i dir ffrwythlon Esquel ar ôl cyfnod o geisio ffermio ar dir sych mewn ardal arall.

Dywedodd Maer Abeystwyth, Lorrae Jones-Southgate, ei bod wrth ei bodd gyda'r syniad.

Fe aeth yr ymfudwyr cyntaf i Ariannin yn 1865, gan deithio 8,000 milltir yn y gobaith o greu bywyd gwell.

Yn ddiweddarach, fe symudodd disgynyddion yr ymfudwyr gwreiddiol i ardal Esquel.

Mae'r Gymraeg i'w chlywed ar strydoedd y dref er mai Sbaeneg yw iaith y mwyafrif.

Bob blwyddyn mae'r trigolion yn cynnal Eisteddfod, ac mae yna nifer o gorau yn y dref.

Eisoes mae yna gysylltiadau gyda thref Aberystwyth oherwydd y Cyngor Llyfrau Cymraeg.

'Dewis perffaith'

Ac mae swyddfa'r wefan Glaniad, sy'n rhoi gwybodaeth am yr ymfudwyr cynnar, yn Aberystwyth.

Dywedodd Mr Williams, maer Esquel, fod y dref yn falch o'i hetifeddiaeth Gymreig.

"Gyda'r cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli drwy Glaniad a'r Cyngor Llyfrau Cymraeg mae'n ymddangos y byddai Aberystwyth yn ddewis perffaith."

Yn ôl maer Aberystwyth Ms Jones-Southgate mae'r syniad yn un da.

"Dwi'n meddwl ei bod yn anrhydedd fod Esquel yn credu byddai Aberystwyth yn ddewis da. Rwy'n meddwl y bydda o fudd i'r ddwy ardal."


HEFYD
Pecynnau addysg i Batagonia
28 Gorff 07 |  Newyddion
Iolo i arwain taith i Batagonia
06 Mai 07 |  Newyddion
Hanes glaniad Patagonia ar y we
19 Maw 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^