Mae 'na dros 4,000 yn aros am dai yn Sir y Fflint
|
Mae cyn-arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi awgrymu adeiladu tref newydd er mwyn ateb anghenion tai'r awdurdod.
Dywedodd y Cynghorydd Alex Aldridge na all trefi presennol ddygymod gydag adeiladu mwy o dai.
Ychwanegodd ei fod yn bryderus y gallai codi mwy o dai mewn cymunedau arwain at fwy o lifogydd.
"Does gen i ddim ardal benodol mewn golwg, syniad yn unig sydd gen i," meddai Mr Aldridge wrth alw am ddechrau'r drafodaeth.
Dywedodd ei fod yn hynod o bryderus am goridor yr A548, Glannau Dyfrdwy.
Mae o'n credu y dylai'r dref newydd gael ei chodi - ar egwyddor sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd - ar dir gwag, i'r de o'r A55, nad oedd ar orlifdir.
"Byddai'r dref yn ddigon mawr i gael 4,000-5,000 o dai newydd o wahanol fathau," meddai.
Llifogydd
"Allwn ni ddim dal i ychwanegu tai i'n trefi presennol.
"Rhaid i rywun ddechrau'r ddadl a dwi'n galw am gynhadledd i unrhyw un sydd â diddordeb o fewn Sir y Fflint i edrych ar hyn o ddifri."
Mae Mr Aldridge, a oedd yn gyn-arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn pryderu am adeiladwaith cymunedau petai adeiladu yn parhau o fewn ein trefi presennol.
Mae Alex Aldridge yn dweud ei fod am weld tref newydd yn y sir
|
"Dwi ddim am gyfranu at y broblem, sefyllfa lle mae ganddo ni lifogydd difrifol fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar yn Sir Gaerloyw.
"Fe gawson ni lifogydd yn Sir y Fflint yn 2001 ac roedden nhw'n dweud pryd hynny mai rhywbeth all ddigwydd bob rhyw 200 mlynedd oedd o.
"Mae'n amlwg nad dyna'r achos ac mae'n rhaid ystyried y pethau yma o ddifri."
Mae tua 4,000 o bobl yn aros am dai ar restr tai'r cyngor ac maen nhw'n bwriadu cysylltu gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn ag adeiladu mwy o dai cyngor.
Yn ôl Ffederasiwn Adeiladwyr Tai cafodd dros 9,000 o dai newydd eu codi yng Nghymru'r llynedd.
Mae elusen Shelter Cymru wedi dweud bod angen 3,500 o dai fforddiadwy i gael eu codi bob blwyddyn yng Nghymru tan 2011 er mwyn ateb y gofynion.
Ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud y bydd £450 miliwn yn cael ei wario dros y pedair blynedd nesaf ar dai fforddiadwy.