BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 27 Gorffennaf 2007, 15:02 GMT 16:02 UK
Trefnwyr y Brifwyl yn hyderus
Maes Eisteddfod 2007
Mae'r trefnwyr wedi gwario £25,000 yn ychwanegol ar draciau metal

Dywed trefnwyr eu bod yn gwneud popeth posib er mwyn sicrhau na fydd tywydd gwael yn amharu'n ormodol ar Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau ar ddechrau mis Awst.

Cyfaddefodd Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod, fod y glaw diweddar yn achos pryder iddo ond bod yn rhaid parhau'n bositif.

Mae'r trefnwyr wedi gwario arian ychwanegol i geisio lleihau'r trafferthion y gallai'r glaw achosi.

"Mae'n rhaid i'r glaw beidio rhywbryd a dwi'n annog pobl i gefnogi'r Eisteddfod," meddai Mr Edwards.

Bydd yr Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal ar gyrion tref Yr Wyddgrug, rhwng Awst 4 ac 11.

Mae 3,800 tunnell o gerrig chwarel lleol wedi eu gosod ar y Maes yn barod a dros 2,000 tunnell arall i'w ddefnyddio er mwyn gwneud llwybrau caled.

Fe fydd 'na fwy o draciau metal yn cael eu defnyddio eleni, cost o £25,000.

Sychu'n gyflym

"Mae'r tywydd yn fy mhoeni i....mae'n achosi ychydig o gur pen," meddai Mr Edwards.

"Mae wedi bod yn fwrn ar adegau, ond mae'n rhaid i ni edrych ymlaen a bod yn bositif."

Gobaith Mr Edwards yw y bydd y tywydd yn fwy caredig ddechrau mis Awst.

Dwi'n gobeithio ein bod wedi gwneud cymaint ag y gall unrhyw un ei wneud
Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod

"Mae'r tywydd yn edrych ychydig yn well yr wythnos nesa. Mae'r safle yn un sy'n sychu'n gyflym.

"Ond o gael ychydig o ddiwrnodau sych mae'r tir glaswellt yn mynd yn syndod o galed."

Mae'r Eisteddfod wedi dod o hyd i opsiynau pellach o ran y meysydd sydd wedi eu difrodi.

"Dwi'n gobeithio ein bod wedi gwneud cymaint ag y gall unrhyw un ei wneud er mwyn sicrhau bod y carafannau yn mynd i'r llefydd iawn," ychwanegodd Mr Edwards.

Rhannu ceir

"Unwaith fyddan nhw i mewn fe fyddwn ni'n gwahardd nhw rhag symud eu ceir.

"Mae'r maes parcio'n ychydig o bryder ac rydan ni'n trafod opsiynau eraill."

Maes Eisteddfod 2007
Mae cerrig man yn cael eu defnyddio i greu llwybrau caled ar y maes

Mae'r Eisteddfod yn cydweithio gyda Heddlu'r Gogledd.

"Cynllun A ydi petai'r haul yn tywynnu ond mae ganddo ni gynllun B ac C ac efallai CH erbyn hyn," meddai Bethan Jones Parry o'r heddlu.

"Fe fyddwn ni'n disgwyl tan y funud ola cyn gwneud sylw penodol.

"Ond y cyngor ydi i bobl rannu ceir er mwyn rhoi llai o bwysau ar drafnidiaeth ac ar y meysydd parcio."

Cafodd 150 erw o dir ei nodi at ddefnydd yr Eisteddfod, y prif faes, y meysydd parcio, carafannau, y maes ieuenctid, MaesB ac C.

Teithio'n wyrdd

"Mae 15 o'r erwau a glustnodwyd at ddefnydd parcio wedi'u heffeithio'n arw ond mae'r tirfeddiannwr wedi rhyddhau 20 erw ar dir cyfagos i'w ddefnyddio," meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.

"Ers 2000 mae'r Eisteddfod wedi annog pobl i deithio'n wyrdd ond eleni rydym yn gofyn i bobl ystyried hynny o ddifri," meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.

"Rydym yn gofyn i bobl ystyried rhannu ceir neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus."

Yn ychwanegol, mae'r Eisteddfod wedi cael caniatâd i ddefnyddio meysydd parcio Clwyd Theatr Cymru a Neuadd y Sir sy'n dal 900 o geir ar gyfer pob cyngerdd nos.

Fe fydd modd parcio yno o 6pm a bws gwennol yn cludo pobl i'r Maes.

Fe fydd y meysydd parcio yma yn cael eu defnyddio ar ddydd Sadwrn a Sul, Awst 4 a 5 a dydd Sadwrn Awst 11 er mwyn arbed y caeau parcio gyferbyn â'r maes.

Y Sioe

  • Daw'r sylwadau yma wrth i ffigyrau cynnar awgrymu fod yna lai o bobl wedi ymweld â'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni.

    Fe wnaeth 41,746 ymweld â'r sioe ddydd Iau, y nifer isaf ar ddydd Iau ers y flwyddyn 2000.

    Roedd nifer o broblemau oherwydd y tywydd.

    Bu tagfeydd o hyd at 10 milltir wrth i bobl drio cyrraedd meysydd parcio.





  • SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

    NEWYDDION

    CEFNDIR

    YR ORSEDD

    O'R ARCHIF

    GWEFAN


    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^