Cafodd Bryan Davies ei anafu'n ddifrifol wrth chwarae ei gêm olaf
|
Mae lladron wedi dwyn arian gafodd ei godi ar gyfer chwaraewr gafodd ei barlysu yn ei gêm olaf.
Roedd Bryan Davies, 49 oed o'r Bala, sy'n cael ei adnabod fel Yogi, yn gapten ar dîm rygbi'r dre pan gafodd anaf ar ei war ar Ebrill 21.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod yr arian wedi ei ddwyn o Westy Plas Coch yn y dre rhwng hanner dydd a 6pm ar Fehefin 30.
Ar hyn o bryd mae'r heddlu'n edrych ar ffilmiau teledu cylch cyfyng.
Amhrisiadwy
Roedd Rhys Jones, aelod o'r clwb, wedi dweud fod Mr Davies wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i'r clwb dros y blynyddoedd.
"Doedd dim byd yn ormod o drafferth iddo.
"Roedd y plant yn ei addoli ac fe wnaeth o weithio'n galed yn hyfforddi'r ifanc."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu'r Bala ar 0845 607 1001 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.