BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Gorffennaf 2007, 13:56 GMT 14:56 UK
'Y dyn sy'n parchu cyfrinachau'
Iolo ap Dafydd
Gohebydd BBC Cymru

Syr Emyr Jones Parry
Mae Syr Emyr Jones Parry wedi treulio 34 mlynedd yn y Swyddfa Dramor
Newyddion Cymru'r Byd yn holi'r Cymro sy'n Llysgennad Prydain i'r Cenhedloedd Unedig, yn ymddeol o'r Swyddfa Dramor fis nesaf ac na fydd yn efelychu Alistair Campbell wrth ysgrifennu hunangofiant.

Dwi'n gofyn ar ddechrau'r cyfweliad yng nghantn swnllyd y BBC yn Llandaf i Syr Emyr Jones Parry ruthro drwy'r manylion "diflas" fel ei oed, ble'i ganwyd a ble bydd yn byw ar l gadael Efrog Newydd.

Mae'n torri ar fy nhraws, yn anghytuno am y manylion diflas achos dyna'r pethau diddorol meddai.

Fel mab i reolwr banc, mae manylion yn bwysig. Yn ei waith fel diplomydd maen nhw'n allweddol.

Dwi'n credu ei fod yn wrthun bradychu ymddiriedaeth ac ysgrifennu am sgyrsiau preifat gyda phobl
Syr Emyr

Mae erthyglau amdano ar y we yn dweud ei fof yn un "llais meddal" ac yn "bwyllog a gofalus ei eiriau." Wedi 34 blynedd yn y Swyddfa Dramor mae hynny'n hanfodol.

Er gwaetha ei enw mae rhywun yn synhwyro nad oes llawer y tu hwnt i Brydain yn sylweddoli mai Cymro ydyw. Mi fydd, meddai, yn pwysleisio hynny bob amser.

Mae wedi helpu Llywodraeth Cymru - fel yn gynharach eleni - i hyrwyddo gwlad ei febyd, yn America ac yn y Cenhedloedd Unedig.

Sir Emyr Jones Parry
Fe'i benodwyd yn ddiweddar yn Llywydd Prifysgol Cymru Aberystwyth

Un peth na fydd yn ei wneud yw cyhoeddi llyfr. Felly'n wahanol i gyn-swyddog y wasg yn Downing Street, Alistair Campbell, fydd o ddim yn dadlennu dim. Pam ddim?

"'Dwi wedi cael braint fawr yn y swyddi dwi wedi eu gwneud ac wedi cael rhwydd hynt i siarad gweinidogion a chyd-weithwyr.

"A dwi'n credu ei fod yn wrthun a bod yn onest fradychu ymddiriedaeth ac ysgrifennu am sgyrsiau preifat gyda phobl - pan nad ydyn nhw'n disgwyl imi gyhoeddi hynny yn y wasg neu fel arall."

Gallai gael ei ddyfynnu yn helaeth yn llyfr cyn-lysgennad arall.

Fe fydd John Bolton, un o'r saith llysgennad o America a weithiodd gyda Syr Emyr yn ystod ei gyfnod yn Efrog Newydd, yn cyhoeddi llyfr yn Nhachwedd.

Doedd o ddim yn fodlon dweud dim am y Cymro. Ac mae Syr Emyr yn fodlon adolygu'r llyfr ar y cyfryngau achos, yn amlwg, mi fydd 'na gyfeirio at berthynas y ddau pan oedden nhw'n cynrychioli Washington a Llundain yn y Cenhedloedd Unedig yn y blynyddoedd anodd ar l y rhyfel yn Irac yn 2003.

Sir Emyr Jones Parry
Caergrawnt fydd cartref y teulu yn yr Hydref

Dyw'r diplomydd ddim yn derbyn bod Irac wedi bwrw cysgod tywyll dros ei bedair blynedd yn America.

"Roedd angen i'r Cenhedloedd Unedig ymyrryd yn gyfreithlon yn Irac," meddai.

Wrth gydnabod nad yw'r sefyllfa wedi bod yn rhwydd mae angen i'r "... Cenhedloedd Unedig weithredu orau y gallai mewn unrhyw rhanbarth ar l cyfnod o ryfel."

Y drafferth yn Irac yw bod y rhyfela wedi parhau ac wedi mynd yn fwy gwaedlyd.

Doedd sylwadau cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Kofi Annan am gyfreithlondeb rhyfel Irac ddim yn gwneud y gwaith diplomydda'n haws. Mewn cyfweliad 'r BBC ym Medi 2004 fe ddywedodd Mr Annan: "O'n safbwynt ni ac o safbwynt y siarter roedd yn anghyfreithlon."

Cyn ymddeol mae Syr Emyr yn amddiffyn gwerth y Cenhedloedd Unedig. Mae rhai yn galw am ddiwygio'r sefydliad ac yn dweud fod y corff yn rhy araf wrth ymateb ac yn fiwrocrataidd gostus.

"Oes, mae angen mwy o egni ar y Cenhedloedd Unedig fel bod gwasanaethau'r mudiad yn cael eu defnyddio i atal rhyfeloedd a gosod seiliau - ble mae modd - i lewyrch economaidd."

Dwi'n awyddus i gyfrannu mwy i Gymru ac i faes addysg a sefydliadau elusennol a chyrff anllywodraethol
Syr Emyr

A allai Cymru fod yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig rywddydd?

"Dwi'n sylweddoli hyn, pe tai Cymru'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, byddai 54 gwlad gyda llai o boblogaeth na Chymru," meddai.

Ond mae'n credu'n gryf mai mewn unedau mwy y mae dylanwadu a llwyddo i fynd 'r maen i'r wal.

Mae'n amddiffyn hawl Prydain i gael sedd ar y Cyngor Diogelwch ac i hawlio feto ar y pwyllgor hwnnw oherwydd eu "dylanwad a'u perfformiad."

'Cythryblus'

Dywedodd Stephen Thomas o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig yng Nghaerdydd: "Yn ystod ei bedair blynedd yn Efrog Newydd mae wedi cefnogi nid yn unig y pethau amlwg - sef polisau'r llywodraeth Brydeinig - ond hefyd sefydliad y Cenhedloedd Unedig ei hun.

"Mae'r ail bwynt yn bwysig wrth ystyried y cyfnod cythryblus wedi diwedd y rhyfel yn Irac yng nghanol 2003 pan oedd angen ailgreu pontydd rhwng Prydain, y Cenhedloedd Unedig a gwledydd eraill."

Dywedodd Ysgrifennydd Cyfiawnder y llywodraeth Jack Straw, a arferai fod yn Ysgrifennydd Tramor: "Dwi wastad wedi mwynhau gweithio gydag Emyr.

Mae'n ddiplomydd ardderchog, sydd wedi rhoi gwasanaeth da i'w wlad ... dyw e ddim erioed chwaith wedi anghofio'i wreiddiau ...."

Y gwreiddiau hynny sy'n tynnu arno wrth iddo gyrraedd oed ymddeol.

Bron cyn gorffen ei yrfa mae'n chwilio am swyddi newydd. Yn wir mae wedi cael dwy - y naill gyda chwmni masnachol, na all ddatgelu mwy na hynny ar y funud, a'r llall fel Llywydd Prifysgol Cymru Aberystwyth.

'Cyfrannu mwy'

"Dwi'n awyddus i gyfrannu mwy i Gymru ac i faes addysg a sefydliadau elusennol a chyrff anllywodraethol."

Caergrawnt fydd y cartref yn yr Hydref ond mae'n rhagweld treulio tipyn o'i amser yn Aberystwyth ac yng Nghaerdydd.

Fydd dim cyfrol hunangofiannol ond mi fydd yn barod i roi barn ar bynciau'r dydd pan fydd 34 blynedd o frathu'i dafod yn dod i ben unwaith y bydd wedi gorffen ei waith fel diplomydd.




HEFYD
O Efrog Newydd i Aberystwyth
05 Gorff 07 |  Newyddion
Cymro yn ddyn y Cenhedloedd Unedig
23 Rhag 02 |  Newyddion
O Efrog Newydd i Langollen
08 Gorff 04 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^