BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 14 Gorffennaf 2007, 08:36 GMT 09:36 UK
Statws cenedlaethol i barc
Stad Dinefwr
Mae rhai o'r coed yn 700 oed

Mae stad yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei ddynodi yn Warchodfa Natur Cenedlaethol.

Fe fydd mwy o adnoddau ar gael i warchod cadwraeth y parc ar stad Dinefwr ger Llandeilo.

Mae 'na dirlun hanesyddol, coedwig a rhywogaethau prin.

Dyma'r tro cyntaf i unrhyw barcdir yng Nghymru gael y gydnabyddiaeth.

Mae'r parc hefyd yn Safle Gwyddonol o Ddiddordeb Arbennig ac yn adnabyddus am ei goed hynafol.

Mae rhai o'r coed derw yno dros 700 mlwydd oed ac mae'r hen goed yn cael eu gadael i farw gan eu bod yn gynefin gyfoethog i nifer o bryfed.

Mae 'na dros 160 o fathau gwahanol o hen goed ar y safle a dros 400 rhywogaeth o chwilod.

Dywedodd Iwan Huws o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n cyd-redeg y stad gyda'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, bod gyrr o wartheg gwyn a'r hen goed yn gyswllt 'r canol oesoedd.

Roedd y gwartheg, meddai, yn cael eu defnyddio fel taliad yn y 10fed ganrif a rwan maen nhw'n cael eu defnyddio i reoli'r bywyd gwyllt.

Mae'r stad yn dyddio'n l i'r Oes Haearn ac yno hefyd mae dau gaer Rhufeinig.

Ar un amser roedd Castell Dinefwr yn gartref i Dywysogion y Deheubarth.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^