Mae pedwar academydd wedi arwain y tîm ymchwil
|
Mae gwyddoniadur Cymru, sydd wedi ei gynhyrchu ers 10 mlynedd, yn cael ei gyhoeddi mewn pedwar mis, yn ôl y cyhoeddwyr.
Fe fydd Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig yn cael ei gyhoeddi ar Dachwedd 13.
Dywedodd y cyhoeddwyr fod mai'r gwaith "diffiniol a chynhwysfawr" fyddai'r "llyfr pwysicaf yn y Gymraeg ers y Beibl Cymraeg yn 1588".
Mae'r gyfrol wedi golygu dros 10 mlynedd o ymchwil, ysgrifennu a golygu.
Ac mae'r cyhoeddiad yn brosiect ar y cyd rhwng Gwasg Prifysgol Cymru a'r Academi.
Cafodd y gwaith ei ariannu yn rhannol gan Gyngor y Celfyddydau a'r Loteri Genedlaethol.
Mae'r tîm ymchwil yn cynnwys Dr John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch.
'Cyfrifiaduron'
Yn y llyfr mae 'na gyfeiriad at wleidyddiaeth, hinsawdd, dawns, diwydiant, celf, chwaraeon, cerddoriaeth, astudiaethau natur, y theatr, y cyfryngau a'r economi.
Mae'r llyfr yn dweud mai brodor o Dreorci, Donald Davies (1924-1999) oedd y dyn cyntaf i "alluogi cyfrifiaduron i gyfathrebu gyda'i gilydd" gan osod y seiliau i'r rhyngrwyd.
Ffaith arall yn y llyfr yw bod y mynydd uchaf yn y byd wedi ei enwi ar ôl y Cymro, George Everest (1790-1866).
'Dathliad'
"Mae wedi cymryd 10 mlynedd i dîm golygyddol a channoedd o gyfranwyr weithio ar hyn," meddai Ashley Drake, Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru.
"Heb os, mae wedi bod yn ddathliad o bopeth Cymraeg.
"Mae'n llyfr llawn ffeithiau a ffigyrau am lefydd a phobl, cyraeddiadau a gwobrau, treialon a thrallodau."
Dywedodd fod y llyfr yn ysgogi'r meddwl yn ogystal â bod yn addysgiadol ac yn "ffynhonnell gwybodaeth hanfodol i bobl Cymru".
Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar werth am £60.
Ond mae modd ei dderbyn am £50 am archebu ymlaen llaw drwy'r wefan fydd yn cael ei lansio ddiwedd mis Gorffennaf.
Mae yna gynlluniau i roi'r gwyddoniadur ar y we.
Yn ol llefarydd mae'n bosib y bydd y gwaith yma yn dechrau ddiwedd y flwyddyn.