Bydd y rhifyn cyntaf yn ymddangos ar Fawrth 3, 2008
|
Fe fydd y papur dyddiol Cymraeg cyntaf yn cael ei gyhoeddi ar Fawrth 3, 2008.
Dywed Cwmni Dyddiol Cyf., y cwmni tu ôl i'r fenter, eu bod yn anelu at 5,000 o danysgrifwyr i bapur newydd Y Byd.
Y nod yw argraffu'r papur bum niwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd pencadlys y cwmni ym Machynlleth a staff llawn amser o 24.
Mae penaethiaid Y Byd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth i roi mwy o fanylion am y cynllun gafodd ei grybwyll gynta wyth mlynedd yn ôl.
Dywedodd y golygydd, Aled Price, y byddai'r papur yn cyflogi newyddiadurwyr ym mhob rhan o Gymru.
"Mae'r papur yn anelu at 5,000 o danysgrifwyr ac fe fydd yr ymgyrch gwerthu tanysgrifiadau yn cychwyn heddiw," meddai.
'Carreg filltir'
"Byddwn ni'n anelu at ddenu mwy o ddarllenwyr, ar wahân i danysgrifwyr, nes ymlaen.
"Mae'r papur wedi denu cefnogaeth sylweddol yn barod - hyd yn oed cyn iddo ymddangos."
Dywedodd Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf, fod y fenter wedi ei chefnogi ymhob rhan o Gymru, gan gynnwys y di-Gymraeg.
"Mae heddiw'n garreg filltir mewn proses sy'n parhau.
"Mae gennym ni 340 o fuddsoddwyr preifat sy'n sicrhau fod perchnogaeth y papur yn aros yng Nghymru, 1,700 o aelodau yn ein Clwb Cefnogwyr a nawr rydyn ni'n lansio ymgyrch danysgrifio," meddai Mr Thomas
Dywedodd y byddai'r cwmni yn chwilio am ragor o gefnogaeth gan y gymuned fusnes yng Nghymru.
Led-led Cymru
Bu cais y cwmni am grantiau busnes gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Powys yn llwyddiannus.
Nod y cwmni yw codi 70 ceiniog am y papur ond bydd pris rhifyn dydd Gwener sy'n cynnwys atodiad penwythnos yn £1.20.
Yn ôl y cwmni, bydd copïau ar gael mewn siopau led-led Cymru.