BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 17 Mehefin 2007, 12:19 GMT 13:19 UK
Achos lladd bwyell: Tystiolaeth
Daniel Morgan
Mae gwobr o 50,000 yn cael ei chynnig ar gyfer gwybodaeth a allai arwain at gyhuddiad

Mae Heddlu Llundain wedi trosglwyddo ffeil o dystiolaeth yn ymwneud llofruddiaeth Daniel Morgan i Wasanaeth Erlyn y Goron.

Cafwyd hyd i gorff Daniel Morgan, ditectif preifat 37 oed, ym maes parcio tafarn y Golden Lion yn Sydenham ym mis Mawrth 1987.

Mae'r ffeil 300 tudalen a gyflwynwyd i Wasanaeth Erlyn y Goron yn cynnwys ffrwyth pum ymchwiliad ar hyd y blynyddoedd.

Mae teulu Daniel Morgan wedi croesawu'r newyddion, ac maen nhw wedi clywed na fydd yr ymchwiliad yn dod i ben ar l cyflwyno'r ffeil ac y bydd yr heddlu yn parhau i geisio casglu tystiolaeth er mwyn erlyn y rheiny oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth.

Yn gynharach y mis hwn, dywedodd yr heddlu eu bod yn amau dau berson.

Mae'r heddlu'n credu ei fod wedi ei ladd oherwydd ei fod ar fin datgelu troseddu difrifol.

Dywed mam Mr Morgan, sy'n byw yn Y Gelli Gandryll, Powys, y bydd y teulu yn parhau i geisio cael cyfiawnder.

Cafwyd cyfres o ymchwiliadau gan yr heddlu dros y blynyddoedd.

Ond does neb wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad 'r llofruddiaeth.

'Cynllwyn cyffuriau'

Mae ditectifs Scotland Yard sy'n gweithio ar yr ymchwiliad diweddaraf wedi arestio tri pherson ers i'r ymchwiliad newydd gychwyn ddwy flynedd yn l.

Maen nhw i gyd ar fechnaeth yr heddlu.

Maen nhw'n credu bod Mr Morgan ar fin datgelu rhwydwaith cyffuriau difrifol, o bosib yn ymwneud swyddogion heddlu llygredig.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Dave Cook: "Un o'r cymhellion rydym yn ystyried yw y cafodd Daniel ei ladd am ei fod ar fin datgelu cynllwyn cyffuriau a oedd o bosib yn gysylltiedig llygredd heddlu."

Mae gwobr o 50,000 yn cael ei chynnig ar gyfer gwybodaeth a allai arwain at gyhuddiad.

Mae teulu Mr Morgan, a gafodd ei fagu ym mhentref Llanfrechfa, Sir Fynwy, wedi dweud eu bod yn credu iddo gael ei ladd gan laddwr proffesiynol.

Mae ei fam, Isobel Hulsmann, 80 oed, wedi dweud y bydd ei deulu yn parhau 'u penderfyniad i weld yr achos yn cael ei ddatrys.

"Rhaid cael cyfiawnder iddo", meddai.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^