Cafodd y seremoni ei chynnal yn Athrofa Prifysgol Caerdydd oherwydd tywydd gwael
|
Mae Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 wedi cael ei chynnal yn y brifddinas.
Oherwydd tywydd gwael bu'n rhaid canslo'r orymdaith oedd i fod i fynd drwy'r ddinas at Gylch yr Orsedd yng ngerddi'r Castell.
Ond fe gafodd y seremoni ei chynnal ar gampws Athrofa Caerdydd yng Nghyncoed amser cinio ddydd Sadwrn.
Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, bod rhaid gwneud penderfyniad cynnar i ohirio'r orymdaith, er bod yr haul wedi dod i dywynnu ar y brifddinas erbyn amser cinio.
"Roeddan ni'n siomedig o beidio cynnal y seremoni allan, fe fyddai wedi bod yn braf gorymdeithio drwy ddinas Caerdydd ond ar ddiwedd y dydd allwn ni wneud dim byd am y tywydd.
"Pan wnaethon ni'r penderfyniad toc wedi 9 roedd hi'n tywallt y glaw ac fe gafodd y penderfyniad iawn ei wneud."
Yn ymuno gyda Gorsedd y Beirdd ar gyfer y seremoni yr oedd cynrychiolwyr o wahanol fudiadau a sefydliadau'r ardal.
Roedd cynulleidfa o 500 o bobl yn bresennol i wylio'r seremoni yn yr athrofa a chael bod yn dyst i'r cyhoeddi.
Yn ystod y seremoni dywedodd Yr Archdderwydd Selwyn Iolen mai dim ond pum gwaith o'r blaen y bu'r brifwyl yng Nghaerdydd.
Fe gyhoeddwyd yn swyddogol mai yng Nghaerdydd, yn ystod wythnos gyntaf Awst 2008, y bydd y brifwyl yn cael ei chynnal ar ôl ymweliad â Sir y Fflint eleni.
Cafodd copi cyntaf o Restr Testunau Eisteddfod Caerdydd 2008 ei chyflwyno gan Huw Llywelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, i'r Archdderwydd.
'Yn fud'
Dywedodd wrth gyhoeddi'r copi ei fod yn ymddiheuro am y tywydd ond yn sicrhau "y bydd yna heulwen" yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.
Yn ystod ei anerchiad rhoddodd yr Archdderwydd gic i'w arwyr ar y maes pêl-droed a rhai o'i gyfeillion yn yr Orsedd.
Dangosodd gerdyn coch i chwaraewyr pêl-droed Cymru am "sefyll yn fud fel pyst" pan fo'r anthem genedlaethol yn cael ei chanu cyn gemau rhyngwladol.
Selwyn Iolen yr Archdderwydd gyda Dic Yr Hendre, yr Archdderwydd nesaf
|
"Onid ydi o'n hen bryd i'r bechgyn a anrhydeddir drwy gael y fraint o wisgo'r crys coch ddysgu geiriau ein hanthem genedlaethol ni a'i chanu gyda balchder."
Ac fe feirniadodd yr aelodau hynny o'r Orsedd a Chyngor yr Eisteddfod sydd ddim yn cefnogi'r 106 o eisteddfodau bychain ar hyd a lled Cymru.
Ond roedd yn llawenhau bod olynydd iddo wedi cael ei ddewis, a hynny yn unfrydol.
"Un enw a ddaeth i law, Y Prifardd Dic Jones - Dic Yr Hendre.
"Fe fydd yn fraint i mi, yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod 2009 y flwyddyn nesaf yn Y Bala, i'w goroni'n Archdderwydd," ychwanegodd Selwyn Iolen.
Yn ôl traddodiad rhaid cyhoeddi'r bwriad i gynnal yr Eisteddfod mewn bro benodol o leiaf flwyddyn a diwrnod cyn y digwyddiad.
Mae 'na 16 mis i fynd cyn i'r Eisteddfod gael ei chynnal ar Gaeau Pontcanna yng Nghaerdydd ac roedd y seremoni ddydd Sadwrn yn rhoi cychwyn ar gam olaf y paratoi.
Anerchiad llawn Selwyn Iolen