BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 15 Mehefin 2007, 18:58 GMT 19:58 UK
Pont: Arwyddo cytundeb
Pont ddŵr Pontcysyllte
Fe agorodd pont ddŵr Pontcysyllte yn 1805

Fe wnaeth partneriaethau arwyddo cytundeb i gydweithio i warchod a rheoli safle o bwys hanesyddol.

Yn ystod cynhadledd arbennig ym Mhontcysyllte ger Wrecsam y cafodd y cytundeb ei arwyddo.

Mae safle Pont Ddŵr Pontcysyllte wedi cael ei enwebu fel enwebiad y Deyrnas Unedig ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd eang Unesco 2008.

Y rhai wnaeth arwyddo'r cytundeb oedd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Croesoswallt, Cyngor Sir Amwythig, Dyfrffyrdd Prydain, Comisiwn Brenhinol Hebion Cymru, Treftadaeth Lloegr a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn 2005 bu digwyddiadau'n dathlu dau ganmlwyddiant y bont ddŵr.

Y peiriannydd Thomas Telford gododd y bont ddŵr a agorodd ar Dachwedd 26, 1805, yr un flwyddyn ag yr enillodd Nelson Frwydr Trafalgar.

Nod ymgyrchwyr yw y bydd yn ymuno 'r rhestr o safleoedd sy'n cynnwys y Taj Mahal, Wal China a thirlun diwydiannol Blaenafon yn y de.

Mae'r bont ddŵr, sy'n 1,000 troedfedd o hyd ac yn cludo camlas Llangollen dros Ddyffryn Dyfrdwy, yn un o'r prif atyniadau i ymwelwyr yn yr ardal.

Dyma'r bont ddŵr fwyaf ym Mhrydain ac mae dros 10,000 o gychod a thros 25,000 o gerddwyr yn ei defnyddio bob blwyddyn.




HEFYD
Cynhadledd yn 'hwb i statws pont'
13 Meh 07 |  Newyddion
Pont: Cais am statws byd-eang
16 Tach 05 |  Newyddion
Gam yn nes at statws byd
28 Gorff 05 |  Newyddion
Ailagor pont ddŵr hyna'r byd
13 Maw 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^