BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 15 Mehefin 2007, 07:38 GMT 08:38 UK
Iaith yn lledu ym myd technoleg
Arwydd Microsoft
Mae'r pecynnau diweddara yn ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael

Mae partneriaeth rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Microsoft yn parhau.

O ganlyniad fe fydd modd lawrlwytho rhyngwyneb iaith i Windows Vista ac Office 2007 yn rhad ac am ddim ymhen chwe mis.

Fe gychwynnodd y berthynas wrth lansio pecynnau rhyngwyneb iaith i Office 2003 a Windows XP tair blynedd yn ôl.

Mae buddsoddiad Microsoft i ddatblygu meddalwedd yn Gymraeg yn mynd law yn llaw ag ymdrechion y Bwrdd i wneud y Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd pob dydd a'i bod yn berthnasol yn y byd technegol.

"Mae Microsoft wedi ymrwymo i sicrhau bod ein meddalwedd ar gael i bawb, mewn nifer o wahanol ieithoedd," meddai Stuart Aston, rheolwr rhaglenni llywodraethol Microsoft.

"Mae'n partneriaeth gyda'r Bwrdd yn caniatáu i bobl weithio'n haws yn eu dewis iaith, p'un a ydynt yn y cartref, ym myd busnes neu yn y system addysg."

Dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Rydym yn arbennig o falch i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Microsoft o'r newydd, a hynny er mwyn datblygu offeryn i siaradwyr Cymraeg ei ddefnyddio yn eu bywydau bob dydd.

"Mae'n profi bod y Gymraeg, fel technoleg gwybodaeth, yn treiddio i bob agwedd ar fywyd cyfoes yng Nghymru."




HEFYD
Cwmni'n lansio cynllun arloesol
12 Ebr 07 |  Newyddion
Technoleg yn 'hwb enfawr' i iaith
05 Ebr 07 |  Newyddion
'Dod â'r iaith i fywyd pob dydd'
28 Meh 04 |  Newyddion
Microsoft i gynnwys mamiaith
18 Maw 04 |  Newyddion
Hwb i'r iaith ym myd technoleg
23 Ion 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^