BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 14 Mehefin 2007, 13:37 GMT 14:37 UK
Agor canolfan werin i Gymru
Tŷ Siamas
Mae'r ganolfan wedi ei henwi ar l y telynor Elis Sion Siamas

Mae canolfan newydd wedi cael ei hagor yn Nolgellau ddydd Iau.

Tŷ Siamas yw'r ganolfan genedlaethol ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol Cymru.

Y nod yw cynnal pob math o weithgareddau a denu pobl o bell ac agos i'r dref.

Dr Meredydd Evans agorodd y ganolfan sydd wedi cael ei henwi ar l y telynor o Lanfachraeth yn y 18fed ganrif, Elis Sin Siamas.

Mae'r gwaith 1.3 miliwn o newid Neuadd Idris ar y Sgwr yn Nolgellau wedi cymryd 18 mis.

Yn ystod y diwrnod agoriadol mae pob math o weithgareddau - o anterliwt i orymdaith y plant, o berfformiadau alawon gwerin i blant yn chwarae pibau.

"Mae Tŷ Siamas yn ganolfan arloesol sy'n rhoi cartref i'n traddodiadau gwerinol, ein cerddoriaeth draddodiadol," meddai Mabon ap Gwynfor, rheolwr y ganolfan.

Gweithdai

"Ac mae ganddon ni arddangosfa amlgyfrwng, awditoriwm i berfformio ac adnoddau recordio i ganiatu i bobl leol eu defnyddio er mwyn tro hyrwyddo'n traddodiadau gwerinol."

Dywedodd fod angen canolfan o'r fath.

"Does 'na ddim cydnabyddiaeth ar gyfer ein cerddoriaeth draddodiadol er bod 'na sawl mudiad wedi cael eu sefydlu i dro cadw a hyrwyddo gwahanol elfennau o'r traddodiad - ond dim canolbwynt.

Offerynnau Gwerin
Fe fydd 'na gyfle i hyrwyddor traddodiadau gwerin

"Gobeithio y bydd yn ganolbwynt i helpu cydlynu'r cyfan."

Fe fydd ysgolion haf a gaeaf yn y ganolfan a gweithdai er mwyn gwella sgiliau pobl yn y byd cerddorol a'r byd gwerin.

Nos Wener fe fydd Gai Toms a 9 Bach yno, nos Sadwrn Yr Hennesseys a Paul Dooley a phrynhawn Sul bydd twmpath gyda'r Band Arall a'r Glerorfa.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^