Mae rhieni a llywodraethwyr wedi addo brwydro yn erbyn y cynigion
|
Mae Bwrdd Cyngor Sir Powys wedi penderfynu gofyn barn yn ffurfiol am ddyfodol chwech o ysgolion bach.
Roedd 50 o rieni a llywodraethwyr ysgolion Hawau, Efyrnwy, Llangurig, Pontneddfechan, Llanfihangel yng Ngwynfa a Charno yn protestio y tu allan i bencadlys y cyngor yn Llandrindod ddydd Mawrth.
Mae'r cyngor wedi dweud fod nifer disgyblion yn gostwng.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn para hyd Awst 23.
Mae llywodraethwyr ysgol Llangurig wedi derbyn nad oes dewis ond cau'r ysgol gan y bydd nifer y disgyblion yn gostwng i 10 y flwyddyn nesaf.
Roedd adolygiad y cyngor wedi dangos fod mwy na 4,000 o leoedd gwag yn ysgolion cynradd y sir a chostau uwch yn yr ysgolion llai.
Bydd penderfyniad terfynol y cyngor ar Fedi 11.
'Cyfleusterau da iawn'
Dywedodd Buddug Bates, pennaeth Ysgol Efyrnwy yn Llanwddyn lle mae 19 disgybl: "Mae'r cyfleusterau yn yr ysgol hon yn dda iawn.
"O bosib hon yw'r ysgol hyfryta yng ngogledd Powys, yn enwedig ar gyfer addysg plant o dan 5 oed. Y broblem yw bod nifer y plant yn lleihau."
Casglodd yr adolygiad, a gychwynnodd yn 2006 nad oedd modd cynnal y chwe ysgol.
Cafodd ansawdd addysg, nifer y disgyblion, trafnidiaeth a chost teithio ac adeiladau eu hasesu o dan y polisi newydd.
Yn 2005 casglodd adroddiad y cyngor fod gan 40 o ysgolion 25% neu fwy o leoedd gwag.
Y nod oedd lleihau'r nifer fel y byddai 15% o leoedd gwag erbyn 2007-2008.
Ddim yn ymarferol
Yn ei adolygiad cyntaf bron pedair blynedd yn ôl dywedodd y cyngor nad oedd ysgolion bach â llai na 28 o ddisgyblion yn ymarferol. Wedyn bu raid ailystyried y polisi.
Dywedodd David Jones, y cynghorydd ar fwrdd y cyngor â chyfrifoldeb am ysgolion, fod pob disgybl mewn ysgol fach yn costio tua £8,000, sef £5,000 yn fwy na disgybl mewn ysgol arferol.
Un o'r rhieni sy'n erbyn y cynlluniau yw Emyr Jones o Lanfihangel yng Ngwynfa lle mae 16 o blant yn yr ysgol: "Dwi'n hapus iawn â'r addysg yno ... mae'n ardderchog.
Er mai 16 o blant sydd yno, falle y bydd pethe wedi newid mewn rhai blynyddoedd.
"Mae ardaloedd fel hyn yn anghysbell a gwledig. Does neb eisie cludo'u plant am filltiroedd, yn enwedig yn ystod boreau tywyll y gaeaf.
"Mae'r gymuned gyfan y tu ôl i ni."