BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Mehefin 2007, 12:22 GMT 13:22 UK
Cofio milwyr Syr Galahad
Syr Galahad ar dn yn Bluff Cove ar Fehefin 8 1982
Cafodd llong Syr Galahad ei dinistrio gan awyrennau'r Ariannin

Cafodd gwasanaeth ei gynnal yn Abertawe er mwyn nodi 25 mlynedd ers i long rhyfel y Syr Galahad gael ei bomio yn Rhyfel Y Falklands.

Cafodd 51 o bobl, y mwyafrif yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig, eu lladd a nifer eu hanafu ar Fehefin 8 1982.

Ymosododd awyrennau'r Ariannin ar longau Syr Galahad a Syr Tristram.

Roedd tua 30 aelod o Gymdeithas Medal De'r Iwerydd yn y gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe.

Fe ymosodwyd ar y Syr Galahad chwe diwrnod cyn i'r Archentwyr ildio.

Cafodd 255 o Brydeinwyr a dros 650 o Archentwyr eu lladd yn y rhyfel barodd am 10 wythnos.

Roedd milwyr ar fwrdd y Syr Galahad yn paratoi i lanio ac ymuno gyda'r rhyfel ar y tir pan gafodd ei bomio.

Cofeb genedlaethol

Yn Eglwys y Santes Fair mae 'na ffenest wydr yn darlunio'r bomio.

Un o'r cyn filwyr
Roedd y gwasanaeth yn cynnwys darnau o'r gwasanaeth coffa gwreiddiol

Roedd y gwasanaeth yn cynnwys elfennau o'r gwasanaeth coffa gwreiddiol yn 1982.

Fe fydd gwasanaeth hefyd yn Fitzroy ar Ynysoedd Falkland.

Yn y cyfamser fe gyhoeddwyd y bydd gwasanaeth i goffu'r rhyfel yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar Fedi 30.

Caiff cofeb genedlaethol ei dadorchuddio yn y gwasanaeth i gofio'r holl filwyr o Brydain gafodd eu lladd.

Mae'r gofeb yn cynnwys craig 5 tunnell sydd wedi cael ei rhoi i Gymru gan bobl Ynysoedd Falkland.

"Fe fydd yn gofeb barhaol yng Nghaerdydd," meddai'r cyn-filwr Maldwyn Jones o'r Felinheli.

"Mae'r garreg wedi cael ei rhoi i ni gan yr ynyswyr ar l i ni fynd yno i'w dewis.

"Roedd yn deimlad od mynd yn l ond yn falch a braf gweld yr ynysoedd rwan ac mae'r ynyswyr mor falch."




HEFYD
'Dim gofal' i gyn-filwyr Falklands
04 Meh 07 |  Newyddion
Cyn-filwyr yn cofio'r Falkland
15 Ebr 07 |  Newyddion
Aduniad emosiynol i filwyr Falkland
03 Ebr 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^