Cafodd Cadair yr Eisteddfod ei chyflwyno nos Fercher
|
Cafodd Cadair Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau ei chyflwyno mewn seremoni yn Yr Wyddgrug nos Fercher.
Mae'r gadair eleni yn cael ei chyflwyno gan gwmni Siop y Siswrn yn Yr Wyddgrug.
Tad a mab lleol, Graham ac Ian Pickstock, sydd wedi dylunio a gwneud y gadair ac arni mae tirlun yr ardal sydd wedi eu hysbrydoli.
Ar gefn y gadair mae Moel Famau a Bryniau Clwyd.
"Mae'r dyluniad yn cynrychioli Moel Famau a Bryniau Clwyd - ar y brig mae Moel Famau ac yna'r bryniau oddi tano cyn cyrraedd Afon Dyfrdwy," meddai Ian aeth i Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug.
Anrhydedd
"Daw'r coed, onnen a derw, yn lleol o stad Mostyn.
"Mae hi'n gadair gyfoes a dwi wedi mwynhau ei gwneud ac mae hi wedi bod yn anrhydedd."
Dywedodd Selwyn Evans, un o berchnogion Siop y Siswrn, ei bod yn anrhydedd iddo fo, ei wraig Ann a'u merch 11 oed Lisa Rhiannon, gael cyflwyno'r Gadair eleni.
"Mae'n bwysig ac yn anrhydedd i gwmni bach o fewn y sir i gael y cyfle i fod yn rhan o ŵyl mor bwysig â Gŵyl mor fawr, un o'r gwyliau diwylliannol mwyaf yn Ewrop.
"Yn ganolbwynt i'r sir mae Moel Famau a Bryniau Clwyd ac mae hynny'n ganolbwynt i gynllun y gadair.
"Mae'n fraint cyflwyno'r Gadair eleni, cyfle i ni roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol am yr holl gefnogaeth 'dan ni wedi ei chael dros y blynyddoedd gan y Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg."
'Dyn cyffredin'
Wrth gyflwyno'r Gadair dyfynnodd Mr Evans eiriau'r nofelydd o'r dref, Daniel Owen, "Nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifennais ond i'r dyn cyffredin".
"Fe awgrymes i fod yr Eisteddfod wedi cael y 'doeth a'r deallus' wrth dderbyn y Goron gan ddau o brif sefydliadau Cymru - Yr Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol - a rwan efo'r dyn cyffredin yn cael y gadair."
Rhoddwyr a gwneuthurwyr y Gadair
|
Mae Mr Evans yn gadeirydd pwyllgor cyllid lleol yr Eisteddfod.
"O safbwynt y siopau, mae yna groeso brwd i'r Eisteddfod," meddai.
"Mae'r 15 i 18 mis diwetha yn brawf bod yna groeso brwd ar hyd y sir a'r ffaith fod y gronfa leol eisoes wedi cyrraedd y nod."
Fe fydd y Gadair yn cael ei chyflwyno i'r prifardd buddugol am awdl mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 200 llinell ar y testun Ffin.
Mae saith ymgais wedi dod i law a bydd rhaid aros tan y cadeirio ar Awst 10 i weld a fydd teilyngdod.