Roedd y cyngor wedi cael gorchymyn i gau safle Cilgwyn erbyn 2008
|
Mae Bwrdd Cyngor Gwynedd wedi cefnogi cais cwmni gwastraff i estyn oes safle gwastraff y Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle.
Roedd y safle i fod i gau ym mis Gorffennaf 2008 ond bod Cwmni Gwastraff Môn Arfon am bum mis ychwanegol er mwyn cael amser i baratoi safle newydd.
Mae disgwyl y bydd gwrandawiad ym mis Awst i benderfynu'n derfynol a fydd y safle'n agored am amser ychwanegol neu beidio.
Roedd y cwmni wedi apelio yn erbyn penderfyniad i gau.
Y llynedd cyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd y byddai'n rhaid cau'r safle yng Ngorffennaf 2008.
Dywedodd y cwmni ei fod am gael yr hawl i ddefnyddio'r hen safle chwarel lechi am bum mis arall a'i gau yn Rhagfyr 2008.
Mae'r asiantaeth wedi dweud eu bod wedi penderfynu cau'r safle oherwydd rheolau newydd diogelu'r amgylchedd.
A dywedodd y cwmni fod angen amser ychwanegol er mwyn diogelu safle Cilgwyn yn llwyr.
Roedd Cyngor Gwynedd, sy am agor safle arall ychydig filltiroedd o Gilgwyn, wedi dweud y byddai'n anodd cael y safle'n barod cyn Gorffennaf 2008.