Hon yw ail gadair yr Urdd i Hywel Griffiths
|
Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Gâr 2007 yw Hywel Griffiths yn wreiddiol o Langynog ger Caerfyrddin.
Dywedodd y beirniaid ei fod yn "grefftwr o fardd".
Hon yw'r ail gadair i Hywel yn yr Urdd - enillodd yn Eisteddfod Ynys Môn 2004.
Cafodd y tri ddaeth i'r brig eu magu o fewn pum milltir i Faes yr Eisteddfod.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Emyr Davies a Mari George.
Y dasg oedd ysgrifennu cerdd rydd neu gaeth heb fod dros 100 o linellau ar y thema Ffenestr.
Cafodd 16 o gerddi eu hanfon eleni ac, yn ôl y beirniaid, roedd 'na "amrywiaeth o ffurfiau gyda'r mesurau caeth yn rhagori".
Dywedodd Mr Davies fod tri ymgeisydd wedi codi i dir uchel ond bod un "yn sefyll ar dir uwch eto".
'Dweud cynnil'
"O'r dechrau dyma gerdd aeth â bryd y ddau ohonon ni ac fe ddyfnhaodd ein boddhad gyda phob darlleniad.
"Nid oherwydd ei bod yn awdl y mae ar y brig ond oherwydd y disgrifio, y delweddu a'r dweud cynnil gan grefftwr o fardd."
Cafodd Hywel ei addysg yn Ysgol Gynradd Llangynog ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin.
Yn ôl y beirniaid, roedd Hywel yn "grefftwr o fardd"
|
Ar hyn o bryd mae'n gwneud doethuriaeth mewn daearyddiaeth yn Aberystwyth.
Dywedodd fod y ffenest yn drosiad o apathi a chymeriad yn yr awdl yn edrych drwy'r ffenestr sy'n ei rwystro rhag bod yn rhydd ac ymgymryd â bywyd gwleidyddol llawn.
Mae Hywel yn gobeithio cael swydd darlithio ar ôl graddio ond am barhau i ysgrifennu ac ymroi i bethau llenyddol a chystadlu am y genedlaethol ryw ddydd.
Bu'r aelod o dîm talwrn y Glêr ac aelod o dîm ymryson beirdd Y Deheubarth yn rhan o'r daith Crap ar Farddoni a deithiodd drwy Gymru'r llynedd.
Fe yw cdeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Dyma'r ddegfed flwyddyn yn olynol i gerdd gaeth ennill cadair Eisteddfod yr Urdd.
Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Eurig Salisbury, Aberystwyth, ac yn drydydd roedd Iwan Rhys, Porthyrhyd ger Caerfyrddin.
Eurig enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd llynedd yn Sir Ddinbych, a fe ddysgodd Hywel i gynganeddu.
Meistr y Ddefod oedd Tudur Hallam.
Roedd y Gadair yn rhodd Manon, Heledd, Matthew, Anona a Tom Talog Davies er cof am Caryl Mai ac yn rhodd Melingoed Cyf, Castell Newydd Emlyn.
Cafodd y gadair ei gwneud gan Gareth Rees, crefftwr lleol, o dderwen gan gadw'r cysylltiad gyda Chaerfyrddin.
Noddwyd y seremoni gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant.