BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 30 Mai 2007, 13:31 GMT 14:31 UK
Y Fedal Ddrama i Manon
Manon Wyn Williams
Dyma'r tro cyntaf i Manon gystadlu yn yr adran lenyddol

Manon Wyn Williams o Rosmeirch, Ynys Môn, enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Gâr 2007.

Dywedodd y beirniaid Siwan Jones ac Ian Staples, bod gan awdur y gwaith buddugol ddawn dweud stori arbennig sydd wedi ei gwreiddio mewn realiti.

Dyma'r tro cyntaf i Manon gystadlu yn yr adran lenyddol.

Y dasg oedd ysgrifennu drama un act i'w llwyfannu a gymer rhwng 40 a 60 munud i'w berfformio.

Roedd 9 wedi ymgeisio am y fedal ond roedd rhaid diystyru dwy am eu bod yn ddramâu teledu.

Dywedodd Ms Jones bod gwaith Ffion, Câr dy Gymydog, yn fonolog ac er mai un cymeriad sydd yna, mae hi'n "sgript bywiog a lliwgar".

"Mae 'na strwythur cryno a chlyfar i'r fonolog ac mae gan y dramodydd ddawn dweud stori.

"Mae yma linellau cofiadwy....eiliadau gweladwy doniol a hiwmor du.

"Mae'r awdur yn llwyddo'n feistrolgar i wthio'r ffiniau a chreu sawl tro annisgwyl doniol."

Llwyfannu

Dywedodd bod y sgript "yn gyflawn ac yn rhodd fendigedig i unrhyw actores dros ei hanner cant".

Dywedodd bod y ddau ddramodydd sydd wedi dod i'r brig "yn sicr eu crefft" ac ychwanegodd ei bod yn wir obeithio y byddai'r ddau waith buddugol yn cael eu llwyfannu.

Mae Manon yn aelod o Aelwyd yr Ynys a'r Theatr Fach, Llangefni.

Cafodd Manon ei haddysg yn Ysgol y Graig, Llangefni ac yn Ysgol Gyfun Llangefni.

Mae newydd gwblhau ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru Bangor.

Mae Manon wedi arfer cystadlu yn yr Urdd ar hyd y blynyddoedd - yn actio, llefaru, dawnsio gwerin ac mewn corau - ond dyma'r tro cyntaf iddi roi cynnig ar ysgrifennu.

Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Lleucu Siôn, Caernarfon ac yn drydydd roedd Elis Meredydd Gomer, Caerdydd.

Meistres y Ddefod oedd Elin Llwyd.

Cafodd yr enillydd fedal, rhodd gan Goleg y Drindod, Caerfyrddin.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^