BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Mai 2007, 15:11 GMT 16:11 UK
Ceri Elen yn cipio medal
Ceri Elen Morris
Ceri Elen enillydd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd 2007

Ceri Elen, yn wreiddiol o Hen Golwyn, sydd wedi cipio Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Gār 2007.

Y Fedal Lenyddiaeth oedd y prif seremoni gyntaf yr wythnos yn yr Eisteddfod a'r beirniaid oedd Ifor ap Glyn a Karen Owen.

Disgrifiwyd y gwaith buddugol fel gwaith oedd yn dangos "dychymyg beiddgar" oedd yn atgoffa rhywun o weithiau Aled Jones Williams.

Y llynedd llwyddodd Ceri Elen i gipio'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Sir Ddinbych.

Erbyn hyn mae Ceri Elen yn byw yng Nghaerdydd ac yn aelod o Aelwyd CF1.

Mae wedi graddio gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg a'r Saesneg ym Mhirfysgol Caerdydd y llynedd lle mae hi erbyn hyn yn dilyn cwrs MA mewn Cymraeg.

Cafodd ei haddysg gynradd yn Ysgol Bod Alaw, Bae Colwyn a'i haddysg Uwchradd yn Ysgol Y Creuddyn, Bae Penrhyn, Llandudno.

Mae ei diddordebau eraill yn cynnwys cerddoriaeth, dawns, celf, cerdded, a chanu a chymdeithasu gyda chōr Aelwyd CF1 yng Nghaerdydd.

Yn ail yng nghystadleuaeth eleni oedd w Osian Rhys Jones o Gastell-nedd,, gyda Lois Barrar o gylch Aberystwyth a Steffan Aran Messesger, o Sir Benfro yn rhannu'r drydedd wobr.

  • Rhagor am Ceri Elen




  • CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^