Mae Mr Worgan yn gwadu wyth cyhuddiad yn ei erbyn ar ôl ffrae ynglŷn a ffens
|
Clywodd llys i ddyn 46 oed fygwth lladd plismyn a gweithwyr y cyngor â bwa ar ôl ffrae am ffens yng Ngheredigion.
Yn Llys y Goron Abertawe mae Brian Worgan o Langeitho wedi gwadu wyth cyhuddiad, gan gynnwys dau gyhuddiad o fygwth lladd plismyn.
Bu gwarchae ym mis Hydref y llynedd wedi i blismyn a swyddogion Cyngor Ceredigion ofyn iddo dynnu ffens i lawr.
Clywodd y llys mai ymateb y diffynnydd oedd dweud: "Os daw'r ffens i lawr mae rhywun yn mynd i dalu am hyn."
Dywedodd yr erlyniad fod un o'r heddlu wedi ei dawelu cyn i weithwyr cyngor gael eu gorchymyn i ddymchwel y ffens.
Wedyn, meddai'r erlyniad, rhedodd Mr Worgan ar draws y cae â bwa yn ei law wrth weiddi ar blisman: "Dwi'n mynd i dy ladd di cyn eu lladd nhw."
Honnodd yr erlyniad iddo wedyn fygwth ail a thrydydd plisman.
Mae Mr Worgan yn wynebu cyhuddiad o fod ag arf peryglus yn ei feddiant, tri chyhuddiad yn ymwneud â chynnau tân - dau o roi ceir ar dân, gan gynnwys fan heddlu, a'r trydydd o roi arwydd ffordd ar dân.
Roedd wedi ei gyhuddo o achosi cythrwfl ac o ddifrodi car yr heddlu.