Karen Owen: Etholiad Arlwyddol 2000 a Medi 11 ysbrydolodd y cerddi
|
Cyfres o gerddi wedi eu ysgrifennu ar ffurf cardiau post o Efrog Newydd enillodd Goron Eisteddfod Môn dros y Sul.
Karen Owen o Benygroes, Gwynedd, cynhyrchydd rhaglenni crefydd BBC Radio Cymru, oedd y bardd buddugol.
Dywedodd y beirniaid fod y cerddi'n "hollol wahanol i ddim byd arall yn y gystadleuaeth".
Roedd y cerddi lliwgar a chryno "fel Haikus ambell dro - yn gwta ond yn gryno-fyw."
Menywod enillodd y prif gystadlaethau llenyddol - Hilma Lloyd Edwards enillodd y Gadair a Manon Wyn Williams enillodd y Fedal Lenyddol.
Mae cerddi Karen yn disgrifio pensaernïaeth Efrog Newydd, ardaloedd enwocaf y ddinas fel Ellis Island, Central Park a Times Square yn ogystal â phrofiadau fel gwrando ar jazz, bwyta mewn diner a cherdded ar strydoedd y ddinas.
Medi 11
"Roeddwn i yn Efrog Newydd adeg yr etholiadau arlywyddol yn Nhachwedd 2000 pan aeth George Bush mewn drwy'r drws cefn," meddai Karen sy'n gweithio ym Mangor.
"Ers hynny ac ers Medi 11 mae'r holl beth wedi bod yn troi yn fy meddwl - ers i'r tyrau ddymchwel mae wedi newid pob peth - nid jest yn rhyngwadol ond yn y ffordd mae pobl yn gweld ei gilydd."
Dywedodd mai "snapshots" oedd y cerddi gan nad oedd y freuddwyd Americanaidd yn wir.
"Allwch chi ddim bod yn arlywydd onibai bod gennych chi goblyn o lot o bres a flwyddyn yn ddiweddarach wedi Medi 11 roeddech chi'n gallu gweld pam fod y peth wedi digwydd - sut oedd y bobl yma'n medru sbïo ar y gorllewin a'i gasáu."
Mae hi wedi ennill pob un o gadeiriau Eisteddfodau Bychan yr ynys ac roedd ganddi reswm personol am gystadlu yn Eisteddfod Môn.
'Gwefr'
"Roedd Nain a Taid o Dwyran ac roeddwn i'n aros yno bob ha' pan oeddwn i'n fach.
"Ac roedd codi o flaen 1,000 o bobl i dderbyn y Goron yn dipyn o wefr a dwi'n meddwl y byddai Nain a Taid wedi bod falch."
Roedd yr Eisteddfod, meddai, yn bwysig i feirdd a chystadleuwyr rhwng eisteddfodau lleol â'r Genedlaethol.
"Mae'r Eisteddfod yn bwysig iawn fel cam at gystadlu yn y Genedlaethol ac roedd gweld Gorsedd Ynys Môn yn ei holl ogoniant yn wefreiddiol."
Roedd yr Eisteddfod gafodd ei chynnal ym Modffordd yn dathlu 100 oed eleni.
Daeth i ben ddydd Sul - cymanfa ganu gydag Alwyn Humphreys, Margaret Williams, Euron Gwyn, Theatr Ieuenctid Môn a Band Môn.
Eisteddfod Môn yw un o'r ychydig Eisteddfodau Rhanbarthol ar ôl yng Nghymru
|
Yng Nghaergybi yn 1907 y cynhaliwyd yr un gyntaf, a dim ond dau Ryfel Byd a chlwy traed a'r genau sydd wedi rhwystro'r ŵyl rhag cael ei chynnal.
Mae'r Ŵyl yn un o'r ychydig o Eisteddfodau Rhanbarthol ar ôl yng Nghymru.
Roedd 'na arddangosfa arbennig yn Oriel Môn yn Llangefni yn croniclo hanes yr Eisteddfod.
Bydd Eisteddfod y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal ym Mhorthaethwy.