Cafwyd Christopher Barker yn ddieuog o'r cyhuddiadau yn ei erbyn
|
Mae prifathro ysgol gynradd gafwyd yn ddieuog y llynedd o gam-drin un o'i ddisgyblion yn rhywiol wedi colli ei swydd.
Dywedodd Cyngor Wrecsam fod Christopher Barker wedi cael ei ddiswyddo fel pennaeth Ysgol Tan-y-fron ar ôl ymchwiliad mewnol.
Roedd apêl Mr Barker yn erbyn y penderfyniad i fod yr wythnos ddiwethaf ond dywedodd y cyngor nad oedd yn bresennol.
Roedd rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug wedi ystyried am lai na thair awr fis Hydref 2006 cyn cael Mr Barker yn ddieuog.
'Anarferol'
Honnwyd i'r dyn sy'n byw yng Nghaer ddatblygu "perthynas anarferol o agos" â bachgen a'i fod wedi ymosod yn rhywiol arno.
Ond roedd yr amddiffyniad wedi dweud fod y bachgen yn dweud celwydd.
Mae undebau athrawon wedi galw am newid y ddeddf er mwyn amddiffyn athrawon sy'n cael eu cyhuddo o droseddau ar gam.
Dywedodd undeb prifathrawon yr NAHT na ddylid datgelu enwau athrawon oedd yn cael eu cyhuddo.