Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar Stad Pentrehobin ger Yr Wyddgrug
|
Mae pobl Sir y Fflint wedi llwyddo i gyrraedd y targed wrth godi arian i Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a'r Cyffiniau 2007.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar Stad Pentrehobin ger Yr Wyddgrug ym mis Awst.
Bu ansicrwydd am leoliad y Brifwyl ar ôl dadleuon am gynnal yr Eisteddfod yn Lerpwl.
Roedd hyn yn golygu bod dechrau codi arian yn Sir y Fflint yn hwyrach nag arfer.
Ond dri mis cyn i'r Eisteddfod ddechrau mae'r targed o £200,000 wedi ei gyrraedd.
Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, y gallai'r gronfa leol gyrraedd £230,000 erbyn mis Awst.
"'Dan ni wedi pasio'r targed a dwi'n meddwl erbyn i'r Steddfod ddod y byddwn ni wedi ei basio â lot yn sbâr mewn gwirionedd.
"'Dan ni rywle ar draws 110% yn barod felly ma 'na siawns i ni gyrraedd £230,000."
Dadlau
Yn ôl y trefnwyr mae'r llwyddaint wrth godi arian yn dangos yr ewyllus da yn y sir tuag at yr Eisteddfod.
Yn wreiddiol roedd dadlau am leoliad yr Eisteddfod yn 2007 wedi i Gyngor Sir y Fflint ddweud na allen nhw gyfrannu'r £300,000 oedd eu hangen.
Daeth gwahoddiad oddi wrth Gyngor Sir a Dinas Lerpwl i gynnal yr Eisteddfod ond fe arweiniodd y cais at brotest gan bobl nad oedd am i'r Brifwyl adael Cymru.
Ond dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyfrannu arian yn flynyddol at yr Eisteddfod.
Roedd hyn yn golygu y gallai Sir y Fflint gynnal y Brifwyl wedi'r cwbl.
Cefnogaeth eang
Dywedodd Selwyn Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, mai denu cefnogaeth eang oedd y rheswm am lwyddiant y pwyllgorau apêl lleol.
"'Dan ni wedi bod yn ffodus iawn - mae'n ardal weddol fychan yn ddaearyddol ond mae 'di bod yn hanfodol ein bod ni'n tynnu pawb i mewn, pob haen o'r gymdeithas gan gynnwys y di-Gymraeg.
"A'r gweithgareddau amrywiol sy' 'di cael eu cynnal ledled y sir sy 'di bod yn gyfrifol am y llwyddiant.
"Dwi'n siwr y bydd 'na groeso arbennig yn Yr Wyddgrug a Sir y Fflint ym mis Awst eleni."