BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Mai 2007, 15:53 GMT 16:53 UK
'Darn cyfoes ond hen thema'
Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint 2007
Hynod: Darnau unigol wedi eu gosod at ei gilydd i greu'r Goron

Mae'r noddwyr wedi cyflwyno Coron Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau i'r Brifwyl a'r Orsedd ddydd Gwener.

Roedd y seremoni yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gan mai'r Llyfrgell ac Amgueddfa Cymru sy'n noddi'r Goron eleni.

Y gemydd Mari Thomas o Lanelli gynlluniodd a gwneud y Goron.

Hon yw ei hail goron ar gyfer yr Eisteddfod - hi oedd yn gyfrifol am y Goron llynedd yn Abertawe pan enillodd Eigra Lewis Roberts.

Y Llyfrgell a'r Amgueddfa sy'n noddi eleni gan fod y ddau sefydliad yn 100 oed.

Dywedodd Mari fod cynllun y Goron yn cynrychioli'r ddau sefydliad.

Llyfr a thorch

"Mae'r cynllun wedi ei seilio ar dudalennau llyfr, sy'n cynrychioli'r Llyfrgell, a darn o emwaith, Lwnwla Llanllyfni, sy'n cynrychioli'r Amgueddfa," meddai.

"Mae'r marciau a'r aur ar y dorch yn cael eu cynrychioli yn y Goron sydd wedi ei gwneud o arian ac aur.

Dwi wedi gwneud 84 darn llai ac wedi eu bachu a'u rhybedu i'w gilydd
Mari Thomas

"Mae'r felfed coch yn cynrychioli lliw sy'n cael ei ddefnyddio gan y Llyfrgell a'r Amgueddfa i hyrwyddo'i hunain.

"Gan fod cymaint o gyfoeth yn y Llyfrgell a'r Amgueddfa, roedd yn ysbrydoliaeth ac yn her."

Lwnwla Llanllyfni yw un o'r darnau hyna o emwaith - yn dyddio'n ôl i'r Oes Efydd - sy'n cael ei gadw gan yr Amgueddfa.

Dywedodd Mari ei bod hi wedei treulio tri neu bedwar mis yn creu'r Goron ond ei bod hi wedi cyflwyno'r cynllun cyn gorffen Coron 2006.

Braint

"Mae'n ddarn cyfoes ond yn dilyn thema sy'n ymwneud â'r noddwyr.

"Ac mae'n wahanol i'r un llynedd oedd yn un darn.

"Eleni dwi wedi gwneud 84 darn llai ac wedi eu bachu a'u rhybedu at ei gilydd.

"Mae'n nodweddiadol o 'ngwaith i ond mae'n braf cael gwneud rhywbeth gwahanol."

Susan Davies ar ran Amgueddfa Cymru, Aled Lloyd Davies ar ran Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau, Mari Thomas cynllunydd y goron a Dr R. Brinley Jones, Llywydd y Llyfrgell Genedlaetho
Cafodd y Goron ei chyflwyno yn y Llyfrgell Genedlaethol

Dywedodd ei bod hi'n fraint gael gwneud y Goron unwaith eto.

"Mae'n anrhydedd ac yn bleser... mae gwneud un yn wych ac mae'n brofiad arbennig eu bod nhw wedi gofyn i mi unwaith eto," meddai.

Dywedodd Andrew Green, Prif Lyfrgellydd y Llyfrgell, eu bod yn falch o noddi'r Goron eleni.

"Mae'n cyfuno dathliadau 100 mlwyddiant y Llyfrgell gyda'r Eisteddfod sy'n rhan ganolog o fywyd diwylliannol Cymru."

Yn rhyfedd, roedd y cyfarfod i sefydlu'r ymgyrch i gael Llyfrgell Genedlaethol yn 1873 yn Eisteddfod Yr Wyddgrug.

Copaon

Dywedodd Robin Gwyn ar ran Amgueddfa Cymru: "Sefydliadau cenedlaethol yw sylfaen hunaniaeth genedlaethol unrhyw wlad.

"Mae'n briodol iawn bod tri o sefydliadau cenedlaethol amlyca Cymru yn cydweithio."

Mae modd i'r cyhoedd hefyd weld y goron dros y mis nesa yn Siop y Llyfrgell ac yna bydd yn mynd i'r Amgueddfa'n Nghaerdydd am fis cyn mynd i'r Steddfod.

Fe enillodd Mari Fedal Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003 am ei gwaith Solitaire sydd erbyn hyn wedi cael ei arddangos yn Efrog Newydd a Tokyo.

Fe fydd y Goron yn cael ei rhoi i'r bardd gorau am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod dros 300 llinell ar y thema Copaon.

Mae 29 ymgais wedi dod i law ac fe fydd seremoni'r Coroni ddydd Llun, Awst 6.

Dywedodd Mari ei bod hi'n gobeithio y byddai teilyngdod.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^