Mae Matthew Rhys yn "falch o fod gartre"
|
Dywed yr actor Matthew Rhys ei fod yn falch o fod yn ôl yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae'r actor o Gaerdydd yn ffilmio The Edge of Love yng Nghei Newydd.
Hanes perthynas honedig rhwng y bardd oedd yn byw yn Nhalacharn, Dylan Thomas, ei wraig Caitlin a dynes arall, Vera Killick, sy yn y ffilm.
Matthew sy'n chwarae rhan Dylan Thomas ac mae'n cyfadde nad gwaith hawdd yw actio'r bardd.
"Mae'n golygu sawl peth i mi ... fel Cymro dwi'n teimlo'r pwysau enfawr wrth chwarae'r bardd. Mae'n meddwl cymaint o wahanol bethau i wahanol bobl.
"Pan y'ch chi'n chwarae cymeriad hanesyddol mae elfen ohono yng nghalon pawb."
'Gwell na Hollywood'
Dywedodd fod merch y bardd, Aeronwy Thomas, wedi ei gynghori i beidio â cheisio portreadu ei thad ond "dal ei ysbryd".
"Ond yr uchafbwynt i mi yw bod yn ôl yng Nghymru," meddai Matthew.
"Dwi ddim wedi bod yn ôl ers blwyddyn ac mae dod yn ôl i Gei Newydd gyda'r tywydd fel y mae a'r cymeriadau lleol yn arbennig.
Dywed Matthew Rhys ei fod yn "hapusach" o weithio yng Nghymru
|
"Ac mae'n dipyn gwell na Hollywood - yr un swydd yw hi ond dwi'n dipyn hapusach nôl adre."
Mae dwy actores enwog yn actio'r prif rannau eraill, Keira Knightley (Vera Killick) a Sienna Miller (Caitlin Thomas).
"Mae dod i'r gwaith yn dipyn haws na swyddi eraill," meddai Matthew.
"Ond mae'n bleser pan mae gennych chi ddwy fel yna yn yr un olygfa â chi.
"Na, dwi'n hapus iawn eu bod yn rhannu'r un brwdfrydedd â fi am y prosiect."
Mam Knightley, Sharman Macdonald, sydd wedi ysgrifennu'r sgript.
Nôl i LA
Ac mae ymweliad y criw ffilmio yn golygu hwb i ardal Cei Newydd.
Un sy'n cadw gwesty yn y dref ydi Mick Hockaday.
Matthew Rhys sy'n chwarae rhan Dylan Thomas gyda Keira Knightley yn chwarae rhan Vera Killick
|
"Mae'r pethe rhyfedda i' weld yma, mae'n wych.
"Ry'n ni wedi bod yn lwcus iawn yn y gwesty, mae 'na bobl yn aros 'da ni. Mae pobl yn bwyta ac yfed yma. Mae'n anhygoel."
Fe fydd y ffilmio yn parhau am bythefnos, gan gynnwys cyfnod yn Nhalacharn ei hun.
Yna fe fydd y ffilmio yn symud i Lundain am bum wythnos.
Ar ôl gorffen ffilmio The Edge of Love - fydd yn cael ei ryddhau yng ngwanwyn 2008 - fe fydd Matthew Rhys yn dychwelyd i Los Angeles lle bydd yn dechrau ffilmio'r ail gyfres o Brothers and Sisters.
Fe fydd y gyfres gyntaf yn cael ei dangos ar Channel 4 ganol mis Mehefin.