BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 14 Mai 2007, 12:19 GMT 13:19 UK
'Gêm wleidyddol': Ffrae addysg
ysgol
Mae'r cynlluniau ad-drefnu wedi cael eu beirniadu

Mae ffrae'n corddi wedi i arweinydd cyngor honni fod mudiad iaith yn "chwarae gêm wleidyddol" ag addysg plant.

Cadarnhaodd bwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin fore Llun y bydden nhw'n cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol dwy ysgol arall - ysgolion Cymraeg Llansawel a Llanarthne.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu cynlluniau'r cyngor i ad-drefnu ysgolion yn y sir yn chwyrn.

Yn y cyfarfod honnodd arweinydd y cyngor Meryl Gravell fod ymgyrchwyr yn erbyn cau ysgolion bach yn "chwarae gêm wleidyddol" ag addysg plant.

Dywedodd hi fod angen gwneud mwy i ddangos i'r cyhoedd faint oedd yn cael ei wario ar addysg gan y byddai £27.5 miliwn yn cael eu gwario eleni.

Pleidleisio

Roedd hi'n cyfeirio at alwad y mudiad iaith i bleidleisio yn erbyn Llafur yn etholiad y cynulliad - mae Llafur yn rhan o'r glymblaid sy'n rheoli'r cyngor sir.

"Y rhai sy'n ceisio cau ysgolion plant er hwylustod biwrocrataidd Neuadd y Sir yw'r rhai sy'n chware gêm wleidyddol," meddai Ffred Ffransis ar ran y mudiad iaith.

"Enghraifft arall o chwarae gêm wleidyddol yw'r broses ymgynghori - y cyngor yn honni ymgynghori am ddyfodol ysgolion ond wedi trefnu eu gwerthu'n barod."

Yn 2004 roedd y cyngor sir wedi datgelu manylion eu cynllun 10-mlynedd i ad-drefnu addysg.

Roedd yr ad-drefnu £110m wedi adolygiad hir a manwl, meddai'r cyngor.

Yn y cynllun roedd bwriad i greu un ysgol uwchradd a 19 o ysgolion cynradd ond roedd ofnau y byddai 30 ysgol gynradd yn cau.

Dywedodd nifer o rieni ac ymgyrchwyr eu bod yn anfodlon.




HEFYD
Cronfa i ysgolion mewn peryg
17 Medi 04 |  Newyddion
Bygythiad i ysgolion gwledig
12 Mai 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^