Cafodd y plant brofion ddechrau'r wythnos
|
Mae chwech o ddisgyblion yn ardal Abertawe wedi derbyn canlyniadau positif ar ôl derbyn profion am y diciâu.
Ond dywed swyddogion iechyd nad yw'r profion o anghenraid yn golygu fod y plant yn dioddef o'r haint.
Gwnaed y profion ar ôl i'r awdurdodau ganfod fod athrawes a thri o blant yng Ngorseinon yn dioddef o TB.
Aed ati i gynnal profion ar tua 150 o ddisgyblion Ysgol Gynradd Gorseinon ac Ysgol Iau Gorseinon.
Mae'r athrawes wedi bod bant o'i gwaith ers Mawrth.
Yr wythnos diwethaf darganfuwyd fod ei phlant yn dioddef o'r haint.
Bydd y chwech wnaeth brofi'n bositif yn cael profion Pelydr-x ar eu hysgyfaint.
Dywedodd Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (GICC) mai bach iawn oedd y posibilrwydd i'r haint ymledu.
Dywedodd Dr Mac Walapu o'r GICC nad yw canlyniad positif yn golygu fod plentyn yn dioddef o'r haint.
"Fe all canlyniadau positif gael eu hachosi gan facteria tebyg i TB, ond bacteria sy'n ddigon diniwed," meddai.
"Gallai hefyd gael ei achosi drwy adwaith i chwistrelliad BCG."