Dafydd Elis-Thomas a Rosemary Butler ydi Llywydd a Dirprwy Lywydd y Cynulliad
|
Ar ddiwrnod cyntaf y cynulliad newydd cafodd Llywydd a Dirprwy Lywydd eu hethol.
Hwn oedd y cyfle cynta i'r 60 aelod newydd gyfarfod yn swyddogol a bu Prif Weithredwr Comisiwn y Cynulliad, Claire Clancy, yn goruchwylio'r sesiwn cyn i'r llywydd gael ei ethol.
Dafydd Elis-Thomas gafodd ei ethol yn Llywydd y Cynulliad.
AC Gorllewin Casnewydd, Rosemary Butler, gafodd ei hethol yn Ddirprwy Lywydd.
Cafodd Yr Arglwydd Elis-Thomas ei enwebu gan Ieuan Wyn Jones, ddywedodd bod angen rhywun "profiadol," ac Edwina Hart o'r Blaid Lafur.
Clymblaid statudol
Yn ei araith gyntaf diolchodd yr Arglwydd Elis-Thomas i'r aelodau am ei ethol ac anfon cyfarchion o'r cynulliad i gynulliad newydd Gogledd Iwerddon.
Dywedodd y Llywydd, oedd wedi bod yn y swydd ers y cynulliad cyntaf yn 1999, fod y datblygiadau yno o ran clymblaid statudol yn ddiddorol ond ei fod "yn falch nad oedd yn rhan o gyfansoddiad y cynulliad hwn".
Fe wnaeth y 60 aelod gyfarfod am y tro cyntaf ddydd Mercher
|
Arweinydd y Blaid Lafur, Rhodri Morgan, enwebodd Ms Butler cyn i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Mike German, eilio.
Dywedodd Mr German fod Ms Butler yn aelod "profiadol â synnwyr digrifwch".
Dywedodd Ms Butler bod cael ei hethol yn "fraint arbennig" a'i bod yn "gyfnod diddorol i'r cynulliad oherwydd y pwerau newydd".
Mae'n olynu John Marek gollodd sedd Wrecsam yn yr etholiad.
Trafodaethau
Yn y cyfamser, fe fydd Rhodri Morgan yn trafod â Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae gan Lafur 26 o'r 60 sedd ac er mai hi yw'r blaid fwyaf o ran aelodau does ganddi ddim digon i ffurfio llywodraeth heb gefnogaeth un neu fwy o'r pleidiau eraill.
Bydd Rhodri Morgan yn trafod gyda Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol
|
Felly Mae Mr Morgan angen clymblaid neu gytundeb un o'r pleidiau eraill cyn cael mwyafrif yn y cynulliad.
Bydd yn trafod gydag Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru yn y cynulliad, a Mike German, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y cynulliad.
"Cyn belled â bod y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn y cwestiwn, bydda i'n trafod gyda Mike German ac Ieuan Wyn Jones er mwyn gweld a allwn ni sicrhau llywodraeth sefydlog," meddai Mr Morgan.
"Hynny yw, llywodraeth fydd yn gweithredu er budd pobl Cymru am bedair blynedd."
Dydd Mercher mae Grŵp Plaid Cymru yn cwrdd i drafod strategaeth a'r Ceidwadwyr yn cynnal eu cyfarfod cyntaf nhw ers yr etholiad.
Mae gan yr holl aelodau tan ddiwedd y mis i enwebu prif weinidog ac mae'n bosib y bydd y trafodaethau yma yn parhau am rai wythnosau.