Fe fydd disgyblion yr ysgol yn cael y profion ddydd Mercher
|
Fe fydd profion yn cychwyn ar 172 o blant mewn dwy ysgol yn Abertawe ar ôl i athrawes a thri o'i phlant ddiodde o'r diciâu.
Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd ac Ysgol Fabanod Gorseinon gynnig y prawf croen am yr afiechyd.
Dywedodd Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru bod y posibilrwydd bod yr afiechyd wedi lledu o fewn yr ysgol yn fach iawn.
Mae'r pedwar sy'n diodde yn ymateb yn dda i driniaeth yn ôl y gwasanaeth.
Mae'r athrawes yn yr ysgol fabanod wedi bod i ffwrdd o'i gwaith ers diwedd mis Mawrth.
Chwistell
Yr wythnos diwethaf y cafodd ei phlant wybod eu bod yn diodde o'r diciâu.
Eglurodd Mac Walapu o'r gwasanaeth iechyd bod cynnal y profion yn gam naturiol mewn achosion o'r fath.
Mae diciâu yn gallu lledu o berson i berson
|
"Mae'r profion yn cynnwys chwistrellu protein pur ddi-haint o dan y croen ar y fraich.
"Fe fyddwn yn ail weld pawb o fewn dau neu dri diwrnod i edrych ar y canlyniadau."
Dywedodd nad ydi canlyniad positif yn golygu bod y plentyn yn diodde o'r diciâu gan fod adweithio i chwistrelliad BCG neu gysylltiad â'r diciâu yn y gorffennol yn gallu arwain at ganlyniad positif.
Ychwanegodd y bydd y gwasanaeth yn cadw llygad ar yr holl blant tan ddiwedd mis Mehefin.
"rydym wedi cael cefnogaeth gan yr awdurdod addysg a staff yr ysgol," meddai Dr Walapu.
"Mae'r rhieni hefyd wedi bod yn gefnogol."