Arweinwyr a phleidiau yn trafod y dyfodol
|
Mae Rhodri Morgan wedi cael caniatād ei gyd aelodau Llafur i gynnal trafodaethau gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru er mwyn ceisio ffurfio llywodraeth.
Doedd yna ddim rhagor o fanylion ynglŷn ā pha fath o drefniant mae Llafur yn ei ffafrio.
O'r 60 aelod yn y Cynulliad newydd mae 26 yn aelodau Llafur.
Bu'r aelodau Llafur yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod eu hopsiynau.
Dywedodd Mr Morgan, arweinydd Llafur yng Nghymru, ei fod wedi cael caniatād y grŵp i gynnal trafodaethau gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru er mwyn sicrhau 'llywodraeth sefydlog".
Yn lle clymblaid ffurfiol fe allai Llafur geisio cynnal llywodraeth leiafrifol - gyda chefnogaeth answyddogol rhai o'r pleidiau eraill.
Dros y Sul daeth i'r amlwg fod rhai yn y Democratiaid Rhyddfrydol yn erbyn ffurfio clymblaid ffurfiol ā Llafur.
Deellir y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol sy ā chwe aelod yn cwrdd ddydd Iau i drafod y cam nesa.
Bu'r blaid yn rhan o lywodraeth glymblaid rhwng 2000 a 2003.
Penodi Llywydd
Dydd Mercher fe fydd y cynulliad newydd yn cyfarfod am y tro cyntaf. Bydd disgwyl i'r aelodau benodi llywydd.
Cafwyd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid yn 2000-3
|
Y llywydd presennol sy'n debygol o gael ei ailethol yw Dafydd Elis-Thomas, AC Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd. Bydd angen dirprwy newydd.
Chafodd y cyn-ddirprwy, John Marek, ddim ei ailethol yn sedd Wrecsam.
Bydd aelodau Plaid Cymru, yr ail blaid fwya, hefyd yn cyfarfod ddydd Mawrth i drafod y sefyllfa.
Mae rhai yn y blaid am drefniant anffurfiol gyda Llafur.
Byddai hynny yn golygu y gallai Llafur lywodraethu heb fwyafrif ond y byddai cytundeb ynglŷn ā'r prif bolisļau.
Mae'r opsiwn arall, sef clymblaid rhwng Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid yn annhebygol, medd sylwebwyr.